Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Ionawr 2013

£20m o gyllid ychwanegol i raglen trechi tlodi Llywodraeth Cymru

Mae Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, wedi cyhoeddi bod £20.5m o gyllid ychwanegol ar gael i 15 o glystyrau fel rhan o Raglen Cymunedau yn Gyntaf newydd Llywodraeth Cymru. 

Neilltuwyd y cyllid ar gyfer prosiectau yn Ynys Môn, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Blaenau Gwent, Sir Benfro a Sir Ddinbych. Nod yr holl brosiectau hyn yw creu rhaglen gymunedol o drechu tlodi sy’n cefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Dywedodd Carl Sargeant: “Mae gan bob un o’r Clystyrau newydd gynllun cyflenwi sy’n dangos sut y bydd y rhaglen yn yr ardal honno yn cyfrannu at ganlyniadau gwell mewn perthynas ag iechyd, addysg a’r economi.

“Ar y cyfan, bydd y rhaglen yn chwarae rôl allweddol fel rhan o Gynllun Gweithredu Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru. Cafodd pob cais ei asesu’n ofalus i wneud yn siŵr y bydd y rhan fwyaf o’r gyllideb yn cael ei defnyddio i gyflenwi prosiectau mewn cymunedau lleol yn hytrach na bod y cyllid yn cael ei wario ar gostau gweinyddu.

“Bydd y cysylltiad â’r gymuned yn parhau i fod yn ganolog i’r rhaglen. Rydym am weld mwy o bobl leol yn ymwneud â Chymunedau yn Gyntaf. Felly mae pob clwstwr wedi datblygu Cynllun Cynnwys y Gymuned i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae’n hanfodol fod y gymuned yn parhau i ymwneud â’r rhaglen ac yn cael y grym i gyflawni dan y rhaglen.”

Bydd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd yn hollol weithredol o fis Mawrth 2013. Hyd yn hyn, dyfarnwyd cyfanswm o £ 73.5 miliwn i 51 o glystyrau ledled Cymru. Bydd y cyllid yn para tan fis Mawrth 2015.

Llun: Cark Sargeant

Rhannu |