Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Ionawr 2013

Mentro allan ar y tonnau – does ’na ddim ‘Tonic’ gwell!

Mae rhaglen beilot yn ymwneud â therapi syrffio, o’r enw ‘TONIC’, wedi dechrau cyffroi’r dyfroedd yng Ngheredigion wrth iddi geisio rhoi help llaw i bobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl yn y sir.

Yn amlwg mae’r enw TONIC yn tarddu o’r gair “ton”, ac mae’n crisialu’r syniad y gall y môr a’r glannau gyfrannu’n fawr at wella iechyd a lles pobl.

Tystiolaeth sydd wedi deillio o effeithiolrwydd therapi syrffio/môr yn Unol Daleithiau America a rhannau eraill o’r DU sy’n sail i TONIC. Erbyn hyn, mae’r dull yma’n cael ei dreialu gydag oedolion sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl yng Ngorllewin Cymru.

Yn ôl Shôn Devey, swyddog datblygu West Wales Action for Mental Health (WWAMH): “Ar y cyfan, dydy iechyd corfforol pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ddim cystal â’r person cyffredin, a dydyn nhw ddim yn cymryd rhan mewn cymaint o weithgareddau. Ar yr un pryd, mae nifer o bobl rydym wedi siarad â nhw yn cydnabod eu bod yn teimlo’n llawer gwell ar ôl bod am dro ar
lan y môr.

“Dyma’r tro cyntaf i brosiect o’r fath gael ei dreialu yng Nghymru, ac mae’r adborth wedi bod yn dda iawn. Y peth mwyaf calonogol yw gweld wynebau hapus ar ddiwedd pob sesiwn, yn ogystal â gweld y cynnydd a wna’r bobl dros amser wrth iddyn nhw fagu hyder a dysgu sut i drin y tonnau.”

Meddai Helen Howells, Uwch-swyddog Cefn Gwlad y Cyngor Cefn Gwlad: “Mae creu cyfleoedd i bobl fynd allan a mwynhau’r awyr agored yn gallu bod o fudd i’w hiechyd meddwl. Braf yw gweld bod y bobl a gymerodd ran yn y prosiect yma wedi bod ar eu hennill. Mae’r fenter wedi ennyn diddordeb amryw byd o grwpiau, yn cynnwys rhai sy’n gweithio gyda chyn-filwyr sy’n dychwelyd adref o ryfeloedd.

"Mae’r ffaith fod gan y fenter y potensial i ddatblygu ac ymestyn i rannau eraill o Gymru yn fantais fawr. Gobeithio y bydd hyn yn helpu’r prosiect i ddatblygu a mynd o nerth i nerth.”

Ychwanegodd Shôn: “A gawn ni ddiolch i’r gwirfoddolwyr, i’r athrawon syrffio ac i bawb sydd wedi cymryd rhan hyd yn hyn. Hebddyn nhw, fyddai’r prosiect ddim wedi mynd yn ei flaen. Rydym yn andros o lwcus fod gan Gymru arfordir mor ysblennydd, a braf iawn yw gallu gwneud defnydd ohono er budd pawb.”

Caiff y rhaglen beilot ei rhoi ar waith gan bartneriaeth rhwng Gofal, y Walking on Water Surf School a West Wales Action for Mental Health (WWAMH).

Cefnogir y rhaglen gan Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 a ariannir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Rhannu |