Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Ionawr 2013

Côr Plant Caerdydd

Mae Menter Caerdydd wedi dewis 80 o blant i fod yn rhan o Gôr Plant Caerdydd - côr Cymraeg newydd sy’n dechrau yng Nghaerdydd ar 21ain Ionawr.

Cynhaliwyd clyweliadau agored i dros 1000 o blant mewn 12 o ysgolion yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr 2012 cyn dewis yr 80 terfynol ar gyfer y Côr.

Bydd y côr, dan arweiniad Mrs Marian Evans, yn cynnwys plant o flynyddoedd 5 a 6 o bobl ysgol gynradd Gymraeg yn y ddinas. Bwriad y côr newydd fydd datblygu a dysgu sgiliau corawl, lleisiol, perfformio a chynnig cyfleoedd cymdeithasu gyda phlant o ysgolion gwahanol.

Bydd y côr yn cwrdd yn festri Capel Salem, Treganna, bob Nos Lun rhwng 4.30pm a 5.30pm ac yn dechrau Nos Lun, Ionawr 21. Am fwy o wybodaeth, neu os hoffech drefnu perfformiad gan Gôr Plant Caerdydd, peidiwch oedi cysylltu â leanne@mentercaerdydd.org neu ffoniwch 2068 9888

 

 

Rhannu |