Mwy o Newyddion
Grantiau Cymraeg, galw am asesu effaith iaith y gyllideb
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i'r cyhoeddiad am grantiau i fudiadau Cymraeg gan y Gweinidog Leighton Andrews heddiw.
Wrth alw am asesiad o ô l-troed ieithyddol holl wariant y Llywodraeth, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Er ein bod yn falch nad oes rhagor o doriadau i grantiau’r mudiadau Cymraeg hyn, nid yw’n mynd i fod yn ddigonol i sicrhau’r cynnydd sylweddol sydd eisiau yn nifer y siaradwyr Cymraeg.
"Dyna pam, yn ein maniffesto byw, ry'n ni'n galw am adolygiad cyflawn o holl wariant y Llywodraeth, i’w gynnal gan gorff annibynnol, ac asesu perthynas y gwariant hwnnw â’r Gymraeg - sef mesur ôl-troed ieithyddol y gwariant.
"O ystyried y twf sydd wedi bod yn nifer y siaradwyr Basgeg mewn cyfrifiadau ers 1991, dylid cynyddu’r adnoddau a roddir i hyrwyddo’r Gymraeg i lefelau’r wlad honno, sef pedair gwaith cymaint â’r gwariant presennol yng Nghymru.
“0.02% o holl gyllideb Llywodraeth Cymru yw gwerth y grantiau a gyhoeddwyd heddiw. Dylid cael ei weld yn y cyd-destun ehangach felly, sef yr holl fuddsoddiad y Llywodraeth yn y Saesneg.
"Nid yw'n glir bod y Llywodraeth wedi sylweddoli maint yr argyfwng sydd yn wynebu'r Gymraeg, a gafodd ei ddangos yn glir gan ganlyniadau diweddar y Cyfrifiad.”
Yn ddiweddar, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ei thrydded Asesiad o Effaith y Gyllideb ar Gydraddoldeb nad oedd yn cynnwys asesiad o’r effaith ar y Gymraeg.
Llun: Robin Farrar