Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Ionawr 2013

Dros £3.5 miliwn i roi hwb i’r Gymraeg yn y gymuned

Mae’r iaith Gymraeg wedi derbyn hwb ar ddechrau'r blwyddyn newydd gyda thros £3.5 miliwn yn cael ei roi mewn grantiau er mwyn hybu’r iaith yn y gymuned.

Mae £85,310 hefyd wedi ei neilltuo i Papurau Bro, rhwydwaith o bapurau newydd cymunedol ledled Cymru, sy’n cael eu cynhyrchu gan wirfoddolwyr a’u cyhoeddi’n fisol.

Yn gyfan gwbwl, mae hyn yn gynnydd o £100,000 i’r grantiau ar gyfer flwyddyn yma.

Un o amcanion Strategaeth y Gymraeg, Iaith Fyw: Iaith Byw, yw cryfhau safle’r Gymraeg yn y gymuned. Bydd y cylch diweddaraf o gyllid yn cefnogi’r amcan hwn drwy dargedu sefydliadau sy’n rhoi cyfle i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu cymunedau.

Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg:  “Rydyn ni am i fwy o bobl gael y cyfle i fwynhau defnyddio mwy o Gymraeg fel rhan o fywyd dydd i ddydd. Mae canlyniadau’r cyfrifiad diweddaraf wedi ein hatgoffa o bwysigrwydd sicrhau bod pawb o bob oedran yn gallu defnyddio’r iaith wrth gymdeithasu ym mhob cwr o Gymru.

“Dyna pam ein bod ni’n darparu dros £3.5 miliwn o gyllid grant i sefydliadau gwahanol sy’n hybu defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau. Mae hwn yn gynnydd o tua £100,000 ar y llynedd, sy’n dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod yr iaith yn parhau i ffynnu.”

Mae cyllid grant Llywodraeth Cymru wedi ei neilltuo i 36 o sefydliadau  ledled Cymru, fel yr Eisteddfod Genedlaethol, y Mentrau Iaith a’r Urdd, a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eu datblygiad a thargedu nifer cynyddol o bobl yn y gymuned.

Ychwanegodd y Gweinidog: “Drwy sefydliadau fel chymdeithasau megis y Mentrau ar Papurau Bro, sy’n gweithio ar lawr gwlad, gallwn ni sicrhau ein bod ni’n rhoi cyfle i bobl ddefnyddio’u Cymraeg ac yn caniatáu i’n cymunedau ffynnu.”

Fe fydd y £3.5 miliwn yn cael ei defnyddio i gefnogi:

Yr Urdd                                                         852,184 
Menter Môn                                                  89,132        
Menter Iaith Fflint                                         72,043        
Menter Merthyr                                             58,400        
Eisteddfod Genedlaethol                           543,000 
Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot       77,415        
Menter Iaith Maldwyn                                    72,591        
Hunaniaeth                                                    83,715        
Menter Iaith Conwy                                       97,678        
Mentrau Iaith Cymru                                     61,500        
Merched y Wawr                                            84,205        
Menter Iaith Maelor                                       36,540        
Menter Bro Dinefwr                                       93,000        
Menter iaith Rhondda Cynon Taf               107,768 
Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru                    89,719        
Menter Brycheiniog                                        28,451        
Partneriaeth Aman Tawe - Castell-nedd    38,000        
Partneriaeth Aman Tawe - Dinefwr              38,000        
Menter Iaith Casnewydd                                 47,250   
Menter Bro Ogwr                                              59,435        
Menter Caerdydd                                              84,591        
Menter Iaith CERED                                       103,068 
Menter Iaith Abertawe                                     102,145 
Menter Iaith Caerffili                                         95,552        
Menter Iaith Sir Ddinbych                                81,583        
Menter Iaith Sir Benfro                                     90,279        
Menter Gorllewin Sir Gar                                 66,921        
Cymdeithas Eisteddfodau Cymru                 46,036        
Duke of Edinburgh Award                               20,300        

Gwallgofiaid / Cellb                                          23,000        
Menter Iaith Cwm Gwendraeth                       87,791        
RHAG                                                                  35,140        
Sefydliad Cerddoriaeth Cymreig                   12,165        
Dyffryn Nantlle 20/20                                        3,000        
Menter Iaith Blaenau Gwent                           42,750        
Plant yng Nghymru                                           3,000 
 


Llun: Leighton Andrews

Rhannu |