Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Ionawr 2013

Y Cynulliad yn un o'r cyflogwyr mwyaf ystyriol o bobl hoyw

Unwaith eto, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi fel un o'r cyflogwyr mwyaf ystyriol o bobl lesbaidd, hoyw a deurywiol yn y DU.

Mae'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, a gynhyrchir gan Stonewall, y corff sy'n hybu hawliau cydraddoldeb, yn edrych ar amrywiaeth o ffactorau i fesur pa mor ystyriol o bobl hoyw yw sefydliadau.

Mae sgôr mynegai'r Cynulliad wedi codi 2 bwynt ac mae'n parhau yn y 30 uchaf yn y rhestr o gyflogwyr yn y DU, ac mae ymhlith y 5 uchaf yng Nghymru.

Un o'r ffactorau a fesurir yw'r modd y mae sefydliadau'n ymwneud â'r gymuned lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol  (LGBT) ehangach.

Mae Stonewall Cymru wedi cydnabod llwyddiant gwaith y Cynulliad o ran ymwneud â'r gymuned drwy ei ddefnyddio fel astudiaeth achos. 

Mae rhwydwaith staff y Cynulliad ar gyfer gweithwyr pobl lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol  (LGBT) hefyd, am yr ail flwyddyn yn olynol, wedi'i gydnabod fel rhwydwaith y dylid ei ystyried yn batrwm ar gyfer eraill.

“Rhaid i'r Cynulliad adlewyrchu gobeithion a dyheadau holl gymunedau Cymru os ydym am ennyn eu hyder,” meddai'r Llywydd, Rosemary Butler AC.

“Dyma'r bumed flwyddyn yn olynol inni gael ein gosod ymhlith y gweithleoedd mwyaf ystyriol o bobl hoyw yn y DU. 

“Rwy'n ymfalchïo'n fawr yn hyn ac mae'n dangos bod y Cynulliad yn sefydliad modern sy'n cynrychioli holl gymunedau Cymru.

Ychwanegodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad Cenedlaethol â chyfrifoldeb am gydraddoldeb: “Hoffwn dalu teyrnged i staff y Cynulliad sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod yr holl raglenni ar waith i sicrhau bod y Cynulliad yn lle cyfeillgar a chadarnhaol i'n holl staff weithio ynddo.

“Eleni, mae Stonewall Cymru hefyd wedi'n defnyddio fel astudiaeth achos ar gyfer arfer da o ran ymwneud â'r gymuned LGBT ehangach, gan ddangos nad ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau, ond ein bod yn parhau i ymdrechu i wella.”

Yn y gorffennol, mae'r Cynulliad wedi ymgymryd â'r gwaith a ganlyn i greu gweithle sy'n fwy ystyriol o bobl hoyw: 

 

  • Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid lleol i ddathlu Mis Hanes LGBT
  • Rydym yn parhau i fynd â Bws y Cynulliad i ŵyl Mardi Gras Caerdydd lle mae'r Llywydd wedi areithio ar y prif lwyfan ac wedi cyfarfod â llawer o'r rhai a oedd yn bresennol
  • Rydym wedi ehangu'n gweithgareddau i ymwneud â'r gymuned drwy ymgynghori â grwpiau LGBT wrth ddatblygu'n Cynllun Cydraddoldeb ac wedi ffilmio fideos gwrth-fwlio ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia a Trawsffobia
  • Rydym yn cynhyrchu bwletinau cydraddoldeb bob mis sy'n cynnwys gwybodaeth, newyddion, cyhoeddiadau, cynadleddau LGBT etc 
  • Rydym yn hybu cydraddoldeb LGBT yn fewnol drwy'n polisïau staff, ein hyfforddiant a'n sesiynau codi ymwybyddiaeth
  • Mae gennym uwch hyrwyddwr LGBT a nifer o uwch gydweithwyr heterorywiol sy'n hybu cydraddoldeb LGBT yn fewnol ac yn allanol

 Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru:  “Yn ystod y ddegawd ddiwethaf, gwelwyd newidiadau mawr ymhlith cyflogwyr Cymru ac mae'n arbennig o galonogol fod canran mor iach ohonynt ymhlith y 100 uchaf, a'u bod yn parhau i ganolbwyntio ar wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd gwaith.

“Yn 2003, dywedodd un o bob pedwar a ymatebodd i'n hymchwiliad cyntaf iddynt gael eu diswyddo oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol. Wrth nodi ein 10fed pen-blwydd yng Nghymru, rydym yn falch iawn o'r newidiadau a welwyd yn ystod y cyfnod y hwn. Rydym yr un mor ymwybodol bod llawer o waith i'w wneud eto i sicrhau y gall y 114,000 o weithwyr Cymru sy'n lesbaidd, yn hoyw neu'n ddeurywiol fod yn driw iddynt eu hunain a pherfformio'n well oherwydd hynny.”

“Eleni, cawsom fwy o ymgeiswyr o Gymru nag erioed o'r blaen, ac roedd y gystadleuaeth yr un mor frwd ag erioed. Drwy gynnig arweiniad parhaus, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cadw ei safle fel un o'r cyflogwyr gorau yn y DU o safbwynt pobl hoyw.  Llongyfarchiadau!”

 Llun: Rosemary Butler

Rhannu |