Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Ionawr 2013

Atal llifogydd yng Ngogledd Cymru

Mae Llywodraeth Cymru heddiw yn wynebu galwad gan y Ceidwadwyr Cymreig i adolygu datblygiad gorlifdir a darparu sicrwydd y bydd y corff amgylcheddol newydd y rheoli ac yn cefnogi’r broblem llifogydd yng Nghymru yn effeithiol.

Mae hyn yn dilyn y llifogydd difrifol ar draws y wlad yn ystod 2012, ac yn ddiweddar yn achosi dinistr i gymunedau yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Antoinette Sandbach AC bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi dadlau am amddiffyniad arbennig i orlifdiroedd yn y gorffennol yn enwedig yn ystod y broses cynllunio a’i fod yn hynod bwysig i Lywodraeth Cymru ddarparu arweinyddiaeth glir ar reolaeth llifogydd er mwyn cynnig cefnogaeth i gymunedau yng ngogledd Cymru a ddioddefodd o ganlyniad i’r llifogydd yn 2012 ac i atal dinistr tebyg ddigwydd yn 2013.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru dawelu meddwl y cyhoedd yng ngogledd Cymru bod y strategaethau rheoli llifogydd wedi gwella a’u bod yn y sefyllfa i ddarparu arweinyddiaeth effeithiol," meddai.

“Roedd 2012 yn flwyddyn anodd i’r cyhoedd a chafodd ei heffeithio o ganlyniad i’r llifogydd yng ngogledd Cymru. Roedd y llifogydd yn gyfrifol am ddinistr cartrefi, achosi trafferthion i rwydweithiau trafnidiaeth a dinistr cymunedau.

“Nid yw effaith lawn llifogydd 2012 i’w gweld eto, ond er hynny mae cymunedau yn parhau i’w chael yn anodd codi yn ôl ar eu traed yn dilyn blwyddyn o dywydd difrifol.”

Yn ôl Asiant yr Amgylchedd, mae oddeutu un o bob chwe eiddo mewn perygl o lifogydd yng Nghymru. Flwyddyn ddiwethaf dyma adroddiad Asesiad Risg Newid Hinsawdd yng Nghymru yn nodi bod perygl o lifogydd yng Nghymru yn uwch na unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig o ran cyfran y boblogaeth, yr eiddo a’r seilwaith perygl llifogydd.

Mis Gorffennaf diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru doriadau yn y swm o arian a oedd yn cael ei dynodi ar gyfer y llifogydd a chyllideb erydu arfordirol.  Fodd bynnag, cafodd buddsoddiad o bum miliwn ei wneud ddoe fel rhan o ddyraniadau cyfalaf y Gweinidog Cyllid.

Dywedodd Antoinette Sandbach: “Mae’n bwysig bod y system gynllunio yn fwy cadarn yn enwedig wrth ystyried datblygiadau ar orlifdir.

“Yn sgil y llifogydd fe welwyd gwaith da gan y cyhoedd. Fe weithiodd y gwasanaethau brys yn wych a darparu gwasanaeth arbennig yma yng ngogledd Cymru.

"Yn arbennig roedd y gwaith a wnaed gan y gymuned i helpu’r rhai a ddioddefodd yn ysbrydol. Ond nawr mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau y cyhoedd bod datblygiadau ar orlifdir yn cael ei adolygu wrth ystyried caniatad cynllunio.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau’r cyhoedd y bydd y corff newydd yn rheoli ac yn cefnogi bob agwedd o lifogydd yn y dyfodol yma yng ngogledd Cymru.”

Llun: Antoinette Sandbach AC

 

Rhannu |