Mwy o Newyddion
Dathlu pen-blwydd y Dewin Cymraeg
Cynhelir dau ddigwyddiad arbennig i ddathlu 150 mlynedd ers geni un o feibion enwocaf Gwynedd.
Ganwyd David Lloyd George, cyn brif weinidog gwledydd Prydain ac AS hen fwrdeistref Caernarfon, union 150 mlynedd yn ôl. Bydd cyfle i bobl sydd â diddordeb yn hanes y Dewin Cymreig gyfle unigryw i weld hen greiriau hanesyddol y teulu ac i wrando ar ddarlith gan hanesydd.
Ddydd Iau, 17 Ionawr - diwrnod pen-blwydd Lloyd George - rhwng 11am a 2pm, bydd cyfle i’r cyhoedd weld casgliad Iarll Lloyd-George o Ddwyfor o greiriau ac eiddo'r Rhyddfrydwr olaf i ddal swydd Prif Weinidog Prydain yn Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy.
Am 3pm bydd gwasanaeth wrth ymyl y bedd ac yna i ddilyn bydd te yn cael ei weini yn y neuadd bentref yng nghwmni DL Carey-Evans, Iarll Lloyd-George o Ddwyfor; Elfyn Llwyd AS a disgyblion Ysgol Llanystumdwy.
Ddydd Gwener, 18 Ionawr, yn yr amgueddfa o 6pm ymlaen bydd cyfle pellach i’r cyhoedd weld casgliad creiriau’r teulu, ac yna am 7.30pm traddodir darlith gan Dr Steven Thompson, o Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth, dan y penawd “Keeping the wolves of hunger from the door: Lloyd George’s National Insurance Act 1911”. Mynediad i’r ddarlith yn £5, neu’n rhad ac am ddim i Gyfeillion yr Amgueddfa.
Dywedodd Philip George, gôr nai Lloyd George: “Rydw i’n parhau i gael fy synnu wrth feddwl fod hogyn a fagwyd yn Llanystumdwy, na chafodd fawr o addysg ffurfiol, wedi cyrraedd swydd uchaf y wlad a bod dylanwad ei lwyddiannau, er enghraifft y diwygiadau lles a gynhyrchwyd ganddo a’r egwyddorion tu cefn i’w gyllideb yn 1909, yn fyw hyd heddiw.”
Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd gyda chyfrifoldeb dros dreftadaeth: “Gobeithiaf yn fawr y bydd y digwyddiadau sydd wedi eu trefnu yn Llanystumdwy yn deyrnged haeddiannol i Lloyd George ac yn gyfle i ddysgu mwy am y dyn a’i yrfa.
“Mae llawer yn ei gofio fel arweinydd llywodraeth glymblaid yn ystod y Rhyfel Mawr a hefyd fel y dyn a gyflwynodd y system les Brydeinig. Ond mae yna fwy i’w ddarganfod bob amser a byddwn yn annog pobl i gymryd mantais o’r gweithgareddau hyn er mwyn cael dysgu mwy.”
Am fwy o wybodaeth am Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy, a holl Wasanaethau Amgueddfeydd Gwynedd, ewch i’r wefan www.gwynedd.gov.uk/amgueddfeydd