Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Ionawr 2013

Gorymdaith yng nghanol y ddinas i groesawu milwyr adref

Bydd milwyr sy'n dychwelyd o Affganistan yn gorymdeithio drwy ganol dinas Abertawe yr wythnos nesaf.

Bydd milwyr o Fataliwn 1af Catrawd Frenhinol Cymru Cwmni Tywysog Cymru yn gorymdeithio o Neuadd y Ddinas i'r LC ddydd Iau, 17 Ionawr.

Bydd Arglwydd Faer Abertawe, y Cyng. Dennis James ac Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, D Byron Lewis, wrth law i archwilio'r milwyr ganol dydd ar Heol y De y tu allan i Neuadd y Ddinas.

Bydd y milwyr wedyn yn gorymdeithio ar hyd Heol San Helen, Stryd Rhydychen a Ffordd y Dywysoges ar eu ffordd i'r LC erbyn tua 12.45pm. Bydd saliwt ffurfiol yn ystod yr orymdaith yn Sgwâr y Castell.

Mae'r milwyr wedi dychwelyd o daith o Dalaith Helmand yn Affganistan. Rhwng mis Mawrth a mis Hydref y llynedd, roedd llawer ohonynt wedi chwarae rhan allweddol wrth hyfforddi a mentora'r Heddlu Affgan.

Meddai'r Arglwydd Faer, y Cyng. Dennis James: "Rydym yn hynod ddyledus i'r milwyr sy'n dychwelyd am eu gwaith yn Affganistan. Gwasanaeth o'r fath yma sy'n helpu i amddiffyn y rhyddid a'r ddemocratiaeth y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol.

"Mae llawer o'r milwyr o ardal Abertawe a de-orllewin Cymru, a bydd yr orymdaith hon yn gyfle i'w teuluoedd, eu ffrindiau a miloedd o bobl leol roi gwybod iddynt gymaint y gwerthfawrogir eu gwasanaeth.

"Byddwn yn annog pobl Abertawe i dyrru i ochr y strydoedd i roi croeso nôl cynnes a haeddiannol i'r milwyr yma.

Mae'r orymdaith yn golygu y bydd Stryd Francis ar gau drwy'r dydd. Bydd rhaglen dreigl cau ffyrdd ar hyd y daith ar waith o oddeutu 11.45am nes bod yr orymdaith yn dod i ben.

Mae gwefan a rhif ffôn newydd wedi'u lansio i roi mynediad i aelodau o'r lluoedd arfog, cyn-filwyr a'u teuluoedd i wybodaeth a chefnogaeth angenrheidiol.

Mae'n rhan o addewid Cyngor Abertawe i gefnogi'r Lluoedd Arfog ar ôl llofnodi Cyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog hanesyddol ddiwedd y llynedd.

Mae'r wefan yn cynnwys canllawiau ar yr hyn sydd ar gael a sut i gael cefnogaeth mewn meysydd megis tai, gofal iechyd, gyrfaoedd a budd-daliadau.

 

Rhannu |