Mwy o Newyddion
Grant i Gynllun Llyfrau Llafar Cymru
Mae Llyfrau Llafar Cymru yn dathlu ar ddechrau blwyddyn newydd. Maent i dderbyn grant o £142,000 dros dair blynedd i baratoi llyfrau sain ar gyfer deillion, y rhannol ddall a’r rhai sydd yn cael trafferth i ddarllen print.
“Mae hyn yn newyddion da dros ben,” meddai’r cadeirydd, Sulwyn Thomas.
“ Roedd e wedi golygu misoedd o waith caled i baratoi cais cyflawn ac mae da ni le i ddiolch i nifer o bobl sydd wedi ein helpu gyda’r gwaith manwl hwnnw ac fe ddaw na gyfle i ddiolch iddyn nhw yn bersonol yn fuan iawn.
"Ond nawr mae’n gyfle i ddiolch i swyddogion y Gronfa Loteri Fawr am weld bod na werth parhaol i’r gwaith a wnawn yn ein canolfan ym Mhensarn yng Nghaerfyrddin, nid yn unig i ddeillion a’r rhannol ddall yng Nghaerfyrddin, ond drwy Gymru gyfan.
"Cynllun cenedlaethol yw hwn gyda photensial i ehangu a datblygu. Mae’r grant yn mynd i olygu sicrwydd i’r ddau sy’n gweithio’n rhan amser da ni a chyfle i ni ddatblygu ac ehangu yn ystod y blynyddoedd nesa.”
Sefydlwyd Llyfrau Llafar Cymru yn 2011 i wasanaethu dros 400 o ddeillion, y rhannol ddall ac eraill sydd yn cael trafferth i ddarllen print.
Roedd y Cynllun Casetiau Cymraeg gwreiddiol wedi ei ddechrau ym 1979 gan Rhian Evans, Llyfrgellydd yng Nghaerfyrddin a gollodd ei golwg ar ddiwedd y saithdegau.
Recordiwyd bron i ddwy fil o “lyfrau” ers y dechrau ond bu bron i’r cyfan ddod i ben pan fu’n rhaid i Gymdeithas y Deillion Gogledd Cymru orffen ariannu’r cynllun wedi ugain mlynedd o nawdd.
“Byddai colli’r ddarpariaeth gwerthfawr hwn yn ergyd i’r Gymraeg, i garedigion llên yn gyffredinol, heb anghofio’r bobl hynny na fedr fynd i Lyfrgell a benthyg llyfrau fel pawb arall.
"Aed ati i sefydlu pwyllgor. Cawsom nawdd gan Lywodraeth Cymru, codwyd dros £30,000 drwy Apêl a dangoswyd bod angen i’r cynllun barhau.
"Bydd angen i ni barhau i godi arian, masnachu’r cynllun, chwilio am wrandawyr newydd a meddwl yn ddwys am gynllun fydd yn gadarn yn ei le erbyn 2016 pan ddaw tymor grant y Loteri Fawr i ben.
"Mae na ddigon o waith i’w wneud, ond gallwn fynd ati nawr heb gwmwl ansicrwydd yn hofran dros ein pennau,” ychwanegodd Sulwyn Thomas.
Mae Llyfrau Llafar Cymru yn recordio llyfrau Saesneg am Gymru hefyd ac yn bwriadu ehangu’r ddarpariaeth i gynnwys pobl sy’n gwella o effeithiau strôc, pobl dyslecsig a phobl ifanc sy’n cael trafferth darllen.
“Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, fedren ni fyth a disgwyl i Llyfrau Llafar Cymru barhau ar haelioni pobol caredig Cymru yn unig.
"Roedd yn rhaid i ni droi at ffynhonnell arall ac y mae’r Loteri Genedlaethol wedi dod i’r adwy. Mae i fyny i ni nawr i dorchi llewys a gweithio i wireddu’r cynlluniau a amlygwyd yn ein cais,” meddai Mr Thomas.