Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Ionawr 2013

£2 filiwn i greu cysylltiadau rhwng Cymunedau yn Gyntaf ac ysgolion

Mae Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, wedi cyhoeddi y bydd cronfa newydd gwerth £2 filiwn ar gael i sicrhau bod mwy o gydweithredu a chydweithio yn digwydd rhwng ysgolion a Chlystyrau Cymunedau yn Gyntaf.

 bwrw bod y Clystyrau’n gallu dangos sut y byddant yn gweithio gydag ysgolion o fewn yr amgylchedd ysgol a’i chymuned i wella deilliannau pobl ifanc sy’n byw mewn tlodi, bydd Cronfa Arian Cyfatebol Amddifadedd Disgyblion Cymunedau yn Gyntaf yn galluogi nifer sylweddol o Glystyrau yng Nghymru i gael arian ychwanegol.

Eisoes, mae llawer o arfer da yn digwydd wrth i ysgolion gydweithio â’r Raglen Cymunedau yn Gyntaf, ac mae Llywodraeth Cymru eisiau hybu a chefnogi’r gwaith hwnnw ymhellach. Bydd angen i Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf ac ysgolion weithio ar y cyd i lunio cynigion a’u cyflwyno i Llywodraeth Cymru eu hystyried. Bydd y gronfa ar gael o 1 Ebrill 2013 tan 31 Mawrth 2015.

Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: “Mae pobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig yn fwy tebygol o ddioddef amddifadedd lluosog na’u cyfoedion sy’n byw mewn ardaloedd mwy breintiedig. Mae’n llai tebygol eu bod yn byw mewn aelwyd sy’n gweithio, yn fwy tebygol eu bod yn dlawd a chanddynt ddisgwyliad oes is. I dorri’r cylch tlodi hwn, mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod plant o aelwydydd tlawd yn cael pob cyfle i gyrraedd eu llawn botensial a lleihau’r effeithiau o fyw mewn tlodi.

"Pan gyhoeddais y Clystyrau Cymunedau yn Gyntaf cyntaf, dywedais y byddai gan y cynllun newydd fwy o bwyslais ar fynd i’r afael â thlodi ac mae gan bob un o’r Clystyrau newydd gynllun cyflawni sy’n dangos sut y byddant  yn cyfrannu at wella canlyniadau o ran iechyd, addysg a’r economi.

"Mae’r gronfa hon yn rhoi cyfle i’r Clystyrau ddangos ymhellach sut y byddant yn gweithio gyda’r ysgolion yn eu hardaloedd i fynd i’r afael â thlodi plant, a’r modd y bydd hynny’n effeithio ar gyflawniadau addysgol pobl ifanc.

Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau: “Rydym eisiau torri’r cysylltiad rhwng tlodi a deilliannau addysgol gwael. Bydd y gronfa hon yn  gwella’r Grant Amddifadedd Disgyblion ymhellach drwy helpu i fynd i’r afael â hanfod yr hyn sy’n achosi tlodi o’r tu mewn i’r gymuned a gwella deilliannau ar gyfer plant sy’n dod o gefndiroedd difreintiedig.”

Llun: Carl Sargeant

Rhannu |