Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Ionawr 2013

Cyfle arbennig i gariadon Gwynedd

Gyda Dydd Santes Dwynwen ar y gorwel, mae cynllun Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd yn cynnig gwasanaeth arbennig i gariadon drwy anfon neges ramantus ar gerdyn at berson arbennig yn eich bywyd.

Ar gyfer Dydd Santes Dwynwen, sef Ionawr 25, bydd Gwen Lasarus, Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd yn gweithredu fel llatai i gariadon hen ac ifanc yng Ngwynedd a thu hwnt, ac mae’n annog unrhyw un sy’n awyddus i gymryd rhan, i gysylltu â hi.

“Os ydych chi’n awyddus i anfon cerdd sydd wedi ei chomisiynu’n arbennig gan Fardd Plant Cymru Eurig Salisbury, at eich cariad, gŵr neu wraig, ar garden neu e-garden, cysylltwch â mi cyn gynted â phosib,” meddai Gwen.

“Dim ond 75 o gardiau a ddyluniwyd yn arbennig gan Caryl Owen sydd ar gael - felly'r cyntaf i’r felin fydd hi. Bydd modd hefyd danfon e-garden os mai dyna eich dymuniad.”

Mae’r gwasanaeth hwn am ddim, ond cofiwch fod angen archebu eich cerdyn cyn gynted â phosib rhag cael eich siomi.

I archebu carden, cysylltwch â Gwen Lasarus, Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd: GwenLasarus@gwynedd.gov.uk neu ffoniwch 01286 679465.

Mae’r cynllun yn rhan o Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd, sef cynllun ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Gwynedd. Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru.

 

Rhannu |