Mwy o Newyddion
Cynghorau Cymru yn wynebu bil enfawr i symud asbestos o ysgolion
Mae symud asbestos o ysgolion yng Nghymru yn debygol o gostio cannoedd o filiynau o bunnoedd, yn ôl gwybodaeth a gafwyd gan Blaid Cymru.
Amcangyfrifodd Sir Ddinbych y bydd yn costio rhwng £6m a £8m i symud asbestos o’i ysgolion tra bod Sir Gaerfyrddin yn rhagweld y buasai symud asbestos yn costio £2.587m gyda £3m arall i unioni pethau wedyn. Ni roes cynghorau eraill amcangyfrifon.
O ganlyniad i gais Rhyddid Gwybodaeth, cafodd Plaid Cymru fanylion holl ysgolion Cymru lle mae deunydd asbestos yn bresennol. Dywedodd cyngor Abertawe eu bod yn rhagdybio fod cynifer â 99% o’i 122 ysgol yn cynnwys asbestos.
A datgelwyd fod cyngor Caerdydd wedi talu mwy na £700,000 mewn taliadau a chostau dros y ddegawd ddiwethaf mewn hawliadau yn ymwneud ag asbestos. Yr oedd un taliad unigol gan Gyngor Sir y Fflint yn fwy na £250,000.
Datgelwyd y wybodaeth cyn cyfarfod cyntaf y grŵp amlbleidiol ar asbestos yn y Cynulliad Cenedlaethol ar ddydd Mawrth, Ionawr 15.
Dywedodd Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru, Simon Thomas, aelod o’r grŵp amlbleidiol: "Mae dau gyngor wedi amcangyfrif costau symud ac adfer wedi asbestos rhwng £11.5m a £13m, ac nid yw’r naill na’r llall yn awdurdodau lleol mawr fel Caerdydd, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe.
"Dylai pob ysgol yng Nghymru fod wedi cael arolwg asbestos priodol, a dylent oll fod â Chofrestr Asbestos. Dylai’r ddogfen hon fod ar gael yn rhwydd, a chael ei chyfoesi pan fo’r awdurdodau monitro yn cynghori hynny. Bydd y pennaeth yn cael gwybod am unrhyw asbestos sy’n bresennol, fydd yn cael ei selio, ei farcio a’i labelu felly.
"Os daw unrhyw gontractwr i’r ysgol, bydd gofyn iddo wneud cais am y gofrestr a’i wneud yn ymwybodol o beth sy’n bresennol. Ers 1996, ni ddylai unrhyw ysgol newydd fod wedi cael ei chodi gydag unrhyw fath o asbestos. Fodd bynnag, nid yw hyn yn dweud na alla fod yno, os yw gwaith trwsio wedi ei wneud â hen ddefnydd, er enghraifft. Ymhellach, er y gall camau cyfreithiol wahaniaethu rhwng gwahanol fathau o asbestos, nid yw’r diwydiant adeiladu yn gwneud hynny: mae’n trin pob math yn debyg.
"Mae’n hollol anymarferol symud yr holl asbestos o ysgolion yng Nghymru neu yn unman arall, gan y byddai’n llythrennol yn costio ffortiwn, fel y dengys y ffigyrau a ddatgelwyd i Blaid Cymru. Er mwyn diogelwch, rhaid i ni asesu’r risg os caiff ei ddarganfod; ei selio, labelu, cofrestru a monitro (fel sy’n ofynnol dan y gyfraith) er mwyn gofalu nad oes risg. Dylai gael ei symud yn unig pan fo’n anymarferol ei selio i mewn. Byddai ei symud pan fo wedi ei selio ac mewn cyflwr sefydlog mewn gwirionedd yn ei wneud yn fwy peryglus o lawer."