Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Ionawr 2013
gan Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau eraill

Neges o Obaith?

Sut gallwn ni ddweud ffarwel wrth un flwyddyn a chroesawu un arall sydd eto i ddechrau?  I nifer, mae’r ateb yn syml, gyda hwyl sy’n ymylu ar hedoniaeth. Mae’r wythnos fwy neu lai rhwng Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn aml yn troi yn un parti hir.

Ar gyfer y rhai sy’n gallu delio â chyfnod hir o yfed a dal i weithio ym mis Ionawr, gallwn ddymuno lwc dda i chi; mae cyflawni camp fel yna’n dasg anghyffredin iawn yn wir, oherwydd mae nifer eraill fydd yn cael eu gorchfygu gan dymor yr ŵyl a’r yfed y mae’n ei gynnig.

Mae’r addewid arwynebol aml o amser da, ewyllys da a hapusrwydd yn aml yn syrthio o dan bwysau tymor y partïon i wirioneddau llai cyfforddus.  Gall siom, unigrwydd a dicter hir-dymor hefyd atalnodi ‘amser hapusaf y flwyddyn’ ac mae digonedd o alcohol wrth law i leddfu’r poenau hyn ac, mewn llawer achos, eu gwaethygu.

Felly, beth yw’r dull gorau o ymchwilio i’ch teimladau am y tymor a’r Flwyddyn Newydd?

Mae’n bosibl mai drwy edrych yn ôl dros yr amseroedd lle’r ydyn ni’n byw, tra bod eraill yn ceisio negyddu pwy a beth ydyn nhw mewn alcohol, dim ond i ddiweddu’n cael eu goresgyn a’u niweidio ganddo, y gallwn ni weld yr ‘amseroedd da’ fel yr hyn ydyn nhw.

Bob yn hyn a hyn, mae gwirionedd yn dod i’r amlwg sy’n chwalu’r propaganda sy’n ein hamgylchynu fel bwled a daeth un i’r amlwg ychydig cyn y Nadolig gan Sefydliad Iechyd y Byd.  Ym mis Rhagfyr, cytunodd 193 aelod-wladwriaethau’r WHO yn unfrydol fod: "Defnydd niweidiol o alcohol yn bwysau iechyd difrifol a’i fod yn effeithio ar bron i bob unigolyn yn rhyngwladol.”

Cyhoeddwyd hwn tra hefyd yn datgelu bod y cyffur yn lladd rhyw 2.5 miliwn o bobl dros y byd i gyd bob blwyddyn gyda 300,000 o’r rhain yn blant a phobl ifanc.

Darllenwch hwn eto: 2.5 miliwn. Mae’n holocost cudd, anweladwy, trosedd yn erbyn dynoliaeth sy’n cael ei normaleiddio a’i drin fel busnes fel arfer; fel ffrwydradau tir.

Mae’n siŵr bod pwynt wedi’i gyrraedd dros y byd i gyd gyda pherthynas dyn gyda’r ddiod feddwol na all gynnal ei hun pan fydd mwyafrif llywodraethau’r byd yn sôn am beryglon alcohol, mae’n rhaid ei bod yn amser i’r cyfoethocaf o’r llywodraethau hyn ddechrau wynebu’r anghenfil y maen nhw wedi’i greu?

Tra bod lleiafswm y polisïau prisiau gwannaf wedi’u cyflwyno’n dawel gan ein llywodraeth, ni all unrhyw un fod â llawer o ffydd go iawn y byddan nhw’n cymryd camau difrifol i adfer rhywfaint o ddoethineb i ddeddfau trwyddedu Prydain.  Nid yw’r ffaith bod ein meistri etholedig yn gwasanaethu’r rhai sy’n cyfrannu fwyaf at gronfeydd partïon gwleidyddol, prin yn syniad dadleuol,  mae’n hysbys a phrin yn gyfrinach. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid cael newid ystyrlon, fel mae wedi bod erioed, a hynny oddi wrth y cyhoedd.

Mae’r fasnach ddiod wedi denu mwyafrif Prydain yn gyfrwys neu’n ddibynnol neu wedi cyfaddawdu, ond mae un ddemograffeg lle mae’n rhaid i ni osod ein gobaith, pobl ifanc.

Mae’r defnydd o alcohol yn gostwng ymhlith pobl ifanc. Yn ddiweddar, roedd Alcohol Concern yn cyhoeddi ystadegau’n dangos bod y defnydd o alcohol ymhlith pobl ifanc 16-24 oed yn gostwng a bod llwyr ymataliad ar gynnydd, tuedd nad sy’n berthnasol i’r amseroedd anodd economaidd presennol ond un a ddechreuodd bron i ddegawd yn ôl.

Er y gall alcoholiaeth achosi llawer o dristwch dros gyfnod y gwyliau, a gall achosi gofleidio’r byd yn waedlyd, mae’n glir bod rhywbeth wedi newid yn dawel, yn raddol ac yn anesboniadwy.

I ble bydd hyn yn arwain y flwyddyn nesaf neu’r ddegawd nesaf?  Beth all hyn wneud o’n cymdeithas? Pwy all ddod i’r blaen i ddangos i ni eu mawredd? Pwy fel arall fyddai wedi’i golli i ddibyniaeth? Bydd yn rhaid i ni aros i weld.

Mae llawer i feddwl amdano'r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd hon a llawer i obeithio amdano yn y misoedd i ddod.  Rhaid i ni gofio am alcohol a dioddefwyr dibyniaeth a gwneud cyfraniadau bychan, graddol,  ond bob amser hanfodol i fyd dynol mwy caredig a diogel yn 2013.

 

Rhannu |