Mwy o Newyddion
Tŷ Bwyta Cyri Gorau Cymru 2013
Mae cogyddion ledled Cymru yn paratoi i dynnu dŵr o'ch dannedd ac i swyno'ch synhwyrau wrth iddyn nhw gystadlu i ennill teitl Tŷ Bwyta Cyri Cymru 2013.
Mae'r ras i weld pwy fydd yn ennill y wobr, sydd yn cael ei chyflwyno am y seithfed tro eleni, wedi dechrau ac mae mwy na 280 o fwytai Indiaidd yng Nghymru yn gymwys i gystadlu. Bydd y pleidleisio'n dechrau ar ddydd Gwener, 4 Ionawr 2013.
"Mae'r amser wedi hedfan ers blwyddyn gyntaf y gystadleuaeth - ond dyma ni'n chwilio am y tŷ bwyta cyri gorau yng Nghymru am y seithfed tro erbyn hyn! Dw i wastad yn teimlo cyffro mawr wrth lansio'r gystadleuaeth. Roedd yna 13,000 o bleidleisiau y llynedd ac, yn 2013, dw i'n meddwl y gwelwn ni gynnydd arall wrth i bobl Cymru ddangos ei hoffter o fwyd Indiaidd," meddai Berwyn Rowlands o The Festivals Company, sylfaenwyr y gystadleuaeth.
"Mae'r gystadleuaeth hefyd yn gyfle gwych i gogyddion talentog wneud defnydd creadigol o gynhyrchion gorau Cymru a'u cyfuno nhw â'r syniadau gorau o goginio Indiaidd," ychwanegodd Berwyn Rowlands.
Rhwng 4 - 31 Ionawr 2013 gall cwsmeriaid fwrw pleidlais dros eu hoff fwytai ymhob un o'r tri rhanbarth drwy ymweld â www.welshcurryhouse.co.uk. Cyhoeddir rhestr fer o 30 bwyty ar ddydd Gwener, 15 Chwefror 2013.
Bydd beirniaid rhanbarthol annibynnol yn ymweld wedyn â phob un o'r 30 bwyty ar y rhestr fer. Cyhoeddir enwau'r tri bwyty gorau yng Nghymru, un o bob rhanbarth, ar ddydd Mercher, 3 Ebrill 2013.
Bydd y beirniaid yn treulio diwrnod cyfan yn ymweld â phob un o'r tri bwyty yn y rownd derfynol. Yn ystod yr ymweliad gwahoddir cogyddion y bwytai i greu argraff arbennig ar y beirniaid trwy baratoi un o'r prydau sydd ar gael ar y fwydlen.
Cyhoeddir enw'r enillydd cenedlaethol mewn digwyddiad arbennig ar ddydd Llun, 22 Ebrill 2013.