Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Ionawr 2013

Statws Uwch Gynghrair yn cyfrannu £58 miliwn i Abertawe

Roedd tymor cyntaf anhygoel Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn yr Uwch Gynghrair yn werth £58m i'r economi leol yn ôl astudiaeth fanwl.

Cafodd tua 400 o swyddi eu creu neu eu diogelu - 340 ohonynt yn Abertawe - yn ôl astudiaeth a gomisiynwyd i ymchwilio i effaith economaidd bod yn yr Uwch Gynghrair ar y ddinas ac ar Gymrru.

Daw'r newyddion wrth i gannoedd o filiynau o gefnogwyr ledled y byd baratoi i wylio'r Elyrch yn herio Arsenal yng Nghwpan yr FA ddydd Sul.

Meddai Gweinidog Busnes Llywodraeth Cymru, Edwina Hart, "Rwy'n croesawu canlyniadau'r astudiaeth effaith economaidd ddiweddaraf sy'n olrhain y manteision i'r economi leol a ddeilliodd o'r miloedd o gefnogwyr pêl-droed a aeth i gemau'r Uwch Gynghrair yn Stadiwm Liberty'r tymor diwethaf.

"Mae dyrchafiad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a'i lwyddiant yn yr Uwch Gynghrair wedi tynnu sylw cynulleidfaoedd teledu byd-eang i Gymru ac wedi darparu llwyth o gyfleoedd i Lywodraeth Cymru hybu ein datblygiad economaidd a'n negeseuon twristiaeth, nid yn unig i ranbarth Abertawe ond er budd Cymru gyfan. .

"O ganlyniad, mae miliynau o bobl wedi clywed negeseuon allweddol am Gymru sy'n herio canfyddiadau ac yn cefnogi ein hymgyrchoedd datblygu economaidd. "

Meddai'r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, "Mae antur Uwch Gynghrair yr Elyrch wedi bod yn stori lwyddiant anhygoel i'r clwb, i Gymru ac i Abertawe.

"Mae gwerth llwyddiant yr Elyrch i'r economi leol hyd yn oed yn fwy na gwobr ariannol Chelsea am ennill Cynghrair y Pencampwyr y bu cymaint o sôn amdani eleni.

"Mae hyn yn gyflawniad anhygoel. Hoffwn roi teyrnged i'r ymdrech a wnaed ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Abertawe, eu partneriaid ac, wrth gwrs, yr Elyrch am sicrhau bod y budd economaidd wedi cael ei deimlo ynghyd â'r ymdeimlad cadarnhaol enfawr a grëwyd ar draws y ddinas gyfan."

Dywedodd y Cyng. Bradley fod 2012 wedi bod yn flwyddyn euraidd i'r ddinas yn sgîl llwyddiant yr Elyrch, ar y cyd â llwyddiant y Gweilch, y llwyth o fedalau a enillwyd gan nofwyr Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn y Gemau Paralympaidd a'r degau o filoedd a ddaeth i groesawu'r Ffagl Olympaidd i Abertawe.

Meddai, "Mae wedi bod yn flwyddyn wych i chwaraeon yn ein dinas a dyna'r sylfaen berffaith ar gyfer 2013 pan fydd y cyngor yn buddsoddi mwy er mwyn hyrwyddo Abertawe fel dinas chwaraeon."

Yn ôl yr adroddiad, er bod y rhan fwyaf o'r gwerth economaidd wedi'i greu yn uniongyrchol gan y clwb pêl-droed, roedd y rhan fwyaf o'r swyddi a grëwyd neu a ddiogelwyd yn deillio o weithgareddau oddi ar y cae pêl-droed.

Yr agwedd fwyaf arwyddocaol oedd p?er gwario cefnogwyr oddi cartref a ymwelodd â thafarnau, clybiau, a bwytai'r ddinas ac a arhosodd mewn gwestai o ganlyniad uniongyrchol i fynychu gemau yn Stadiwm Liberty.

Meddai'r Cyng. Bradley, "Mae'r asesiad effaith economaidd hwn wedi profi bod y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe, i dargedu cefnogwyr oddi cartref er mwyn eu hannog i ddod i fwynhau yr hyn sydd gan Gymru ac Abertawe i'w gynnig, wedi gweithio.

"Rydym yn credu ei fod yn parhau i weithio'r tymor yma hefyd gyda miloedd o gefnogwyr yn parhau i fwynhau croeso cynnes Cymreig yn Abertawe."

Dyma rai o'r effeithiau allweddol yn ôl yr adroddiad gan Uned Ymchwil Economi Cymru Prifysgol Caerdydd:

*Amcangyfrifir mai £58.6m oedd y budd i economi Cymru o ganlyniad i dymor cyntaf yr Elyrch yn yr Uwch Gynghrair

*Crëwyd £50.6 miliwn o'r budd economaidd gan Glwb Pêl-droed Abertawe, gan ddiogelu neu greu oddeutu 125 o swyddi.

*Amcangyfrifir mai £55.3m oedd gwerth yr effaith economaidd ar y ddinas.

*Creodd y gweithgareddau oddi ar y cae pêl-droed effaith economaidd gwerth oddeutu £7.9miliwn, gan greu neu ddiogelu 295 o swyddi, a'r rhan fwyaf ohonynt yn Abertawe.

 

Rhannu |