Mwy o Newyddion
Ysgol werdd wefreiddiol
Mae Ysgol Friars ym Mangor wedi dechrau cynhyrchu trydan drwy ddefnyddio paneli solar ‘Photovoltaic’, neu PV.
Bwriad y paneli, a osodwyd yn yr ysgol yn gynharach eleni, yw cynhyrchu 10kW awr o drydan yn flynyddol, a bydd hyn yn cwtogi allyriadau carbon o 4.4 tunnell.
Mae Cyngor Gwynedd wedi buddsoddi mewn paneli solar ar gyfer 15 o’i adeiladau yn ddiweddar, gan gynnwys 12 o ysgolion.
Dywedodd Neil Foden, pennaeth Ysgol Friars: “Rydym yn hynod falch fod yr ysgol yn cynhyrchu ei thrydan ei hun erbyn hyn. Mae o gymorth i ni ddysgu’r plant pa mor werthfawr yw ynni a hefyd o help i ni gadw ôl troed carbon yr ysgol cyn lleied a phosib.
“Mae panel gwybodaeth wedi ei osod yn yr ysgol sy’n dangos faint o drydan sy’n cael ei gynhyrchu. Y mae’r wybodaeth hefyd i’w weld ar fewnrwyd yr ysgol fel y gall y disgyblion weld y data, er mwyn gweld faint o drydan sy’n cael ei gynhyrchu a gallu cymharu darlleniadau o dan wahanol amgylchiadau tywydd.
“Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth yma mewn nifer o wersi yn yr ysgol - cynhyrchu trydan a thechnoleg PV yn y gwersi ffiseg; gweithio allan faint o drydan sy’n cael ei gynhyrchu, beth yw’r gost a faint o garbon rydym yn ei arbed mewn gwersi maths; ac astudio gwahanol fathau o ynni, gan gynnwys ynni adnewyddol ac anadnewyddol, yn ogystal â materion newid hinsawdd ehangach mewn gwersi daearyddiaeth.”
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, aelod Cabinet Cyngor Gwynedd gyda chyfrifoldeb dros yr amgylchedd: “Mae prosiectau bychan o gynhyrchu trydan yn bwysig i ni fel Cyngor os ydym am gyrraedd ein targedau o leihau ein hôl troed carbon o 30% erbyn 2015.
“Mae’r gwaith yma yn mynd law yn llaw efo cynlluniau eraill sydd ar waith gan y Cyngor er mwyn lleihau faint o garbon rydym yn ei gynhyrchu drwy osod offer newydd yn lle offer aneffeithlon a gwella ein hadeiladau, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ymysg staff er mwyn newid ymddygiad gwastraffus.”
Mae Cyngor Gwynedd yn buddsoddi £7.4 miliwn dros bum mlynedd er mwyn lleihau allyriadau carbon.
Llun: Disgyblion blwyddyn 7 a 10 yn edmygu’r paneli newydd. Yn y llun mae Jessica Hill, Levi Shanton, Neha Zahid, Elley Bridges, Lauren Nicol, Kate Williams a Jake Pattinson