Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Ionawr 2013

Grwpiau prosiect cerdded yn camu at ddiwedd eu blwyddyn gyntaf

Mae prosiect cerdded a ddechreuodd fel menter ran amser wedi gweld dau grŵp yn dathlu blwyddyn o gerdded ag arddeliad, er gwaethaf heriau tywydd ansefydlog Sir Benfro.

Cymaint fu llwyddiant Prosiect Walkability, a sefydlwyd y llynedd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chwaraeon Cymru, fel y sicrhawyd cyllid ychwanegol yr hydref hwn, gan alluogi’r cydlynydd rhaglen i weithio llawn amser.

Dywedodd Cydlynydd Prosiect yr Awdurdod Paul Casson: “Dechreuodd y prosiect ym mis Awst 2011, a’r mis hwn mae dau grŵp yn dathlu blwyddyn o gerdded.

“Mae grŵp agored wedi cwblhau dros 40 o deithiau cerdded ar draws y Parc Cenedlaethol o Fryniau’r Preseli yn y gogledd i Ystangbwll yn y de.

“Mae grŵp o Shalom House hefyd wedi defnyddio llwybrau cerdded ar draws y sir, gan oresgyn trafferthion i bobl â phroblemau meddygol a symudedd difrifol.”

Ychwanegodd Paul: “Arwydd arall o hyder yn y prosiect yw bod cyllid wedi’i sicrhau drwy’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy i ddarparu trafnidiaeth i grwpiau at lwybrau cerdded amrywiol.”

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Ruth Hussey: “Mae cerdded yn ymarfer rhwydd, esmwyth ac yn ffordd ardderchog o ymarfer. Dyma'r ymarfer delfrydol i ddechrau’n araf ac adeiladu arno, a gall newidiadau bach o ran ffordd o fyw gael effaith fawr ar eich iechyd."

Ychwanegodd llefarydd ar ran yr elusen iechyd meddwl MIND: “Mae ymchwil wedi dangos bod rhaglenni o ymarfer dan oruchwyliaeth yn gallu bod yr un mor effeithiol â chyffuriau gwrth-iselder wrth drin iselder ysgafn neu ganolig.”

Mae cyllid o raglen grantiau Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Llywodraeth Cymru wedi galluogi’r Awdurdod i brynu dau sgwter symudedd arall, gan olygu bod tri bellach ar gael yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr y Parc yn Nhyddewi, Canolfan Ymwelwyr Trefdraeth a Chanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Dinbych y Pysgod.

Dywedodd Rheolwr Oriel y Parc: “Mae’r sgwter eisoes yn wasanaeth ychwanegol poblogaidd ac mae nifer o ymwelwyr bodlon wedi’i ddefnyddio i fwynhau’r tirlun hyfryd sydd yn lleol yma.”

“Fel canolfan ymwelwyr, yn aml ni yw’r lle cyntaf y daw pobl iddo wrth gynllunio eu diwrnod ac yn aml rydym ni’n rhoi gwybodaeth am lefydd hygyrch i ymweld â nhw yn y Parc Cenedlaethol.”

 

Rhannu |