Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn annog datrys anghydfod ar fyrder
Mae AS Plaid Cymru Elfyn Llwyd wedi galw am ateb buan er mwyn datrys yr anghydfod rhwng y BBC ac EOS. Rhybuddiodd fod yr argyfwng presennol yn bygwth bywoliaeth cerddorion Cymreig ac y gallai danseilio’r Gymraeg yn y tymor hir.
Meddai AS Plaid Cymru Elfyn Llwyd: “Mae’r anghydfod presennol wedi bod yn corddi ers misoedd bellach. Dylasai bwrdd y BBC yng Nghymru fod wedi bod yn gwneud llawer mwy o ran trafod gwirioneddol ac ystyrlon. Mae’n ymddangos erbyn hyn y gallai ein hunig orsaf radio genedlaethol Gymraeg gael ei darnio er mwyn gwarchod y berthynas gyfforddus gyda’r PRS, sydd â monopoli.
“Rhaid i rywun holi beth yw blaenoriaethau a gwerthoedd y BBC yn y modd mae’n gwario arian.
“Mae EOS, sy’n cynrychioli artistiaid yng Nghymru, yn cael cynnig chwarter yr hyn a gynigir i’r rhwydwaith Asiaidd. Mae hyn yn amlwg yn annheg. Mae bywoliaeth artistiaid yng Nghymru, y sîn roc a cherddoriaeth Gymreig, dan fygythiad, a thrwy hynny mae’r iaith a’r diwylliant yn cael eu tanseilio.
“Dyma argyfwng sydd angen ei ddatrys rhag blaen, a’r unig ffordd i wneud hyn yw trwy drafod rhesymol.”