Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Ionawr 2013

Miliynau o bunnoedd i gael eu buddsoddi yn ffyrdd Abertawe

Bwriedir buddsoddi miliynau o bunnoedd ychwanegol mewn goleuadau stryd, ffyrdd a llwybrau cerdded dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae cronfa gwerth £10m, a sefydlwyd yn gynharach eleni er mwyn helpu i wella cyflwr rhwydwaith ffyrdd Abertawe dros y tair blynedd nesaf, eisoes wedi dechrau atgyweirio neu ddisodli miloedd o oleuadau stryd ar draws y ddinas.

A bellach mae adroddiad newydd, a gyflwynir i'r Cabinet ar ddechrau mis Ionawr, yn amlinellu cynigion buddsoddi ychwanegol, gan gynnwys gwella ffyrdd a llwybrau cerdded yn ardaloedd targed y ddinas, yn ogystal ag adnewyddu pontydd a goleuadau stryd.

Mae'r cyngor eisoes wedi dechrau adnewyddu goleuadau a dorrwyd i lawr am eu bod yn anniogel a'i nod yw dechrau'r gwaith o osod miloedd o oleuadau stryd newydd yn y ddinas ar ddechrau 2013.

Bydd y cynlluniau gwella sy'n werth miliynau o bunnoedd yn defnyddio goleuadau ynni effeithlon yn lle'r hen oleuadau stryd.

Mae'r rhan fwyaf o'r 27,000 a mwy o oleuadau stryd sydd mewn cymunedau ar draws y ddinas yn hen ac mae angen gosod rhai newydd yn eu lle.

Meddai'r Cyng. June Burtonshaw, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Leoedd "Mae goleuadau stryd yn bwysig i helpu trigolion i deimlo'n ddiogel yn eu cymunedau ac maen nhw'n rhan hanfodol o'n cymdogaethau.

"Mae hyn yn rhan o gynllun cyffredinol sy'n cael ei ariannu drwy gynllun benthyca darbodus a gefnogir gan Lywodraeth Cymru."

Cytunwyd ar flwyddyn gyntaf y rhaglen yn gynharach eleni. Gofynnir i'r Cabinet gytuno ar sut i wario gweddill yr arian yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn.

Os caiff y cynlluniau eu cymeradwyo, bydd yr arian yn cael ei wario ar wella ffyrdd a llwybrau cerdded mewn ardaloedd targed, ynghyd â £400,000 ar adeileddau megis pontydd.

Ymysg y cynlluniau eraill a fydd yn elwau y mae prosiect rheoli traffig yr Hafod, gwelliannau i groesfannau pelican a chodi rhai safleoedd bysus i helpu teithwyr i fynd ar y bysus ac oddi arnynt yn haws.

Yn ôl Carl Humphrey, Pennaeth Strydlun Cyngor Abertawe, mae'r cynllun gwella goleuadau stryd yn gam pwysig. Ychwanegodd, "Mae ein cynlluniau tymor hir bob amser wedi ymwneud â datblygu rhwydwaith goleuadau stryd modern sy'n defnyddio technoleg sy'n arbed ynni.

"Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn ein helpu i roi rhaglen lleihau ynni goleuadau stryd ar waith. Bydd yn cynyddu nifer y goleuadau stryd sydd gennym ar hyn o bryd, a bydd y cynllun yn rhatach i'w gynnal. Bydd hefyd yn cynorthwyo'r gymuned drwy leihau llygredd golau ac allyriadau carbon yn sylweddol.

Meddai, "Bydd y buddsoddiad ychwanegol hefyd yn targedu peth o'r gwaith ffordd a amlygwyd yn rhaglen Rheoli Asedau Priffyrdd y cyngor sydd heb ei wneud eto."

 

Rhannu |