Mwy o Newyddion
Yr Archwilydd Cyffredinol yn ceisio barn ar gynllun airt blynedd
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gofyn am adborth gan randdeiliaid allweddol a’r cyhoedd ynghylch cynlluniau Swyddfa Archwilio Cymru dros y tair blynedd nesaf.
Meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas: “Rwy’n ymwybodol nad yw rôl archwilio cyhoeddus a chraffu sy’n ymatebol, yn awdurdodol ac yn annibynnol, erioed wedi bod yn fwy hanfodol.
“Yn fwy nag erioed, mewn cyfnod o galedi, mae angen sicrwydd ar drigolion Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n gywir ac yn ddoeth. Yn yr un modd, mae angen cymorth ar wasanaethau cyhoeddus i ganfod arbedion effeithlonrwydd a’r potensial am welliannau, a help i ddatblygu dulliau newydd, sy’n gweddnewid.
“Cyn mynd ati i bennu'n fanylach sut y dylem geisio cyflawni’r dull hwn, hoffwn roi prawf ar y tybiaethau a wnaed gennym a cheisio barn ein rhanddeiliaid amrywiol. Gobeithiaf y bydd y bobl yng Nghymru sy’n cyfrannu at ein gwasanaethau cyhoeddus yn achub ar y cyfle hwn i lywio dyfodol y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan Swyddfa Archwilio Cymru. Wedi’r cyfan, rydym yn bodoli er mwyn dilyn trywydd y bunt gyhoeddus ble bynnag yr â, a cheisio sicrwydd bod arian yn cael ei wario’n gywir.
“Mae’r arolygon a gynhaliwyd gennym wedi dangos bod cyrff a archwilir yn croesawu’r cyngor y gallwn ei gynnig. Er gwaethaf y newidiadau sydd ar ddod i’n trefniadau llywodraethu, fel y’u cyflwynir ym Mil Archwilio Cyhoeddus Cymru sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd, rwy’n benderfynol na ddylid bod unrhyw leihad yng ngallu Swyddfa Archwilio Cyhoeddus i chwarae ei rhan lawn mewn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi’u rheoli’n dda, ac sy’n cyflwyno’r gwerth gorau posibl am arian i drigolion Cymru.”
Mae modd mynd at y strategaeth ddrafft a’r arolwg yn http://www.wao.gov.uk/cymraeg/aboutus/250.asp