Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Tachwedd 2012

Cenedlaethau’r Dyfodol i Elwa o Atgyweiriadau i Gastell Cairew

Mae drysau canoloesol Castell Cairew bellach ynghau hyd nes y Pasg nesaf, ond tu mewn i’r waliau hynafol mae amserlen waith brysur yn mynd i adnewyddu a thrwsio’r strwythur eiconig o’r 13eg ganrif.

Mawr oedd y disgwyl am y gwaith atgyweirio ar do, ffenestri a drysau’r Neuadd Fach yng Nghastell Cairew, sy’n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a ddechreuodd fis Mehefin ac a gwblhawyd ym mis Hydref.

Meddai Rheolwr Castell Cairew, Teresa Hogsflesh: “Mae’r gwaith a gwblhawyd yng ngham cyntaf y prosiect hwn wedi rhoi blas i ni o’r profiad pleserus fydd yn disgwyl ymwelwyr y Pasg nesaf pan fydd yr ased hanesyddol pwysig hwn ar agor i ymwelwyr unwaith eto.

“Ail gam y prosiect yw ailddodrefnu Sied Dennis yn yr Ardd Furiog, a fydd yn dderbynfa newydd i ymwelwyr, gyda thoiledau cyhoeddus, ac mae disgwyl i’r gwaith hwn ddechrau ymhen mis.

“Y trydydd cam, a’r cam terfynol, yw gosod arwyneb newydd ar y maes parcio, a fydd yn gwella mynediad i bobl leol ac ymwelwyr.

“Dyluniwyd y cynllun i gynnal cymeriad y safle, a’i gyfoethogi, tra hefyd yn sicrhau bod gwerth hanesyddol ac ecolegol y castell yn cael ei amddiffyn, ac, i bob pwrpas, mae’n cynrychioli gwaith ein cenhedlaeth ni i adeiladu ar newidiadau dros yr wyth ganrif ddiwethaf.”

Gyda’r Pasg yn gynnar y flwyddyn nesaf, rhagwelir y bydd Castell Cairew yn croesawu ei ymwelwyr cyntaf yn 2013 ym mis Mawrth, gyda rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau a fydd yn para tan yr hydref.

Cynhaliwyd cloddiad archeolegol yn ddiweddar yn y castell, dros gyfnod o ddeufis, o ganlyniad i’r gwaith diweddar, a dadorchuddiwyd adeilad o waith maen a grisiau a malurion hynod o ddiddorol o’r gegin, gan gynnwys teils a fflagenni Tuduraidd.

Darperir y nawdd ar gyfer prosiect Castell Cairew gan yr Undeb Ewropeaidd, Cadw, Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Fe fydd canolfannau ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Nhrefdraeth a Dinbych-y-pysgod, Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc a Bryngaer Oes Haearn Castell Henllys ar agor yn ôl yr arfer dros dymor y gaeaf. Gweler manylion oriau agor y gaeaf ar ein gwefan, www.pembrokeshirecoast.org.uk.

 

Rhannu |