Mwy o Newyddion
Cyhoeddi Clystyrau Cyntaf Rhaglen Trechu Tlodi’r Llywodraeth
Mae Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, wedi cyhoeddi 12 Clwstwr cyntaf Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Gweinidog fod y grwpiau newydd cyntaf o ardaloedd, sy’n cael eu galw’n Glystyrau, yn cynrychioli bron i chwarter y rhaglen. Byddant yn derbyn ychydig dros £19 miliwn hyd at fis Mawrth 2015.
Mae’r 12 Clwstwr cyntaf yn cynnwys pedwar yng Nghaerffili, pedwar yng Nghaerdydd, un yng Ngwynedd, un ym Mro Morgannwg a dau Glwstwr yn Sir y Fflint.
Creu Rhaglen Trechu Tlodi sy’n canolbwyntio ar y gymuned yw nod y rhaglen newydd, a hynny er mwyn cefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig.
Dywedodd y Gweinidog fod y cyhoeddiad yn rhoi sylwedd go iawn i’r rhaglen.
Dywedodd: “Mae gan bob un o’r Clystyrau newydd gynllun cyflawni sy’n dangos sut y bydd y rhaglen yn cyfrannu at wella canlyniadau o ran iechyd, addysg a’r economi yn yr ardal dan sylw.
“Bydd y rhaglen, drwyddi draw, yn gwneud cyfraniad pwysig at Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru i Drechu Tlodi. Rydym wedi asesu pob un o’r ceisiadau yn ofalus er mwyn sicrhau bod modd gwario’r gyfran uchaf bosibl o’r gyllideb ar ddarparu prosiectau mewn cymunedau lleol, yn hytrach nag ar gostau gweinyddol.
“Cynnwys y gymuned fydd prif nod y rhaglen o hyd. Rydym yn awyddus i weld mwy o drigolion lleol yn cymryd rhan yn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, felly mae pob Clwstwr wedi datblygu Cynllun Cynnwys y Gymuned i wneud yn siŵr fod hynny’n digwydd. Mae’n hollbwysig fod y gymuned yn dal i gymryd rhan yn y rhaglen ac yn dal i gael ei grymuso ganddi.”
Mae’r newidiadau sy’n cael eu cyflwyno i’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn dod yn sgil ymgynghoriad mawr a gynhaliwyd yn 2011. Roedd amryw o’r sefydliadau y bydd y newidiadau yn effeithio arnyn nhw yn gryf o’u plaid. Mae’r newidiadau hefyd yn ystyried yr argymhellion yn adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a gyhoeddwyd yn 2009 a 2010.
Ychwanegodd y Gweinidog fod fframwaith monitro cadarn newydd yn ei le ar gyfer y rhaglen.
Dywedodd: “Byddwn yn casglu gwybodaeth allweddol am waith a chyraeddiadau’r Clystyrau a’r rhaglen gyfan, ac yn cyhoeddi’r wybodaeth honno.”
Mae cyfanswm o 52 o ardaloedd yn gymwys i gael eu cynnwys yn y rhaglen newydd. Bydd cyhoeddiadau pellach am Glystyrau eraill yn cael eu gwneud yn ystod yr wythnosau nesaf, a’r disgwyl yw y bydd y rhaglen newydd yn ei lle, i raddau helaeth, erbyn dechrau 2013.