Mwy o Newyddion
Plaid yn croesawu cwymp yn ffigyrau diweithdra Cymru
Mae Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Alun Ffred Jones, wedi croesawu ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw sydd yn dangos cwymp o 5,000 yn nifer y bobl ddi-waith yng Nghymru, sy’n dod â’r ffigwr newydd i 121,000.
Fodd bynnag, mae cyfradd diweithdra Cymru o 8.2% yr uchaf o hyd o bedair gwlad y DG, sydd â chyfartaledd o 7.8%.
Meddai Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Alun Ffred Jones: “Mae cwymp mewn diweithdra yn newyddion da i economi Cymru, yn enwedig gyda’r niferoedd mewn gwaith yn codi.
“Fodd bynnag, gan Gymru y mae graddfa ddiweithdra uchaf gwledydd y DG ac y mae bron i 50,000 yn fwy o bobl yn chwilio am waith yng Nghymru nawr nac oedd bum mlynedd yn ôl pan gychwynnodd y dirwasgiad.
“Mae diweithdra ymysg ieuenctid yn broblem benodol, gyda Chymru eto a chyfradd uwch o ddiweithdra ymysg ieuenctid na gwledydd eraill y DG.
“Mae Plaid Cymru yn falch o chwarae ei rhan yn helpu pobl ifanc yn ôl i waith gyda’n cynllun i greu hyd at 10,000 o brentisiaethau, gan roi gobaith iddynt i’r dyfodol.
“Cred Plaid Cymru hefyd y dylem gael lefelau uwch o gaffael lleol o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, a buddsoddi mewn gwario ar seilwaith ysgolion, ysbytai a ffyrdd. Bydd y ddau beth yma yn creu mwy o swyddi ac yn rhoi gwell hwb i economi Cymru.”