Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Tachwedd 2012

Gofynnir i siopwyr brynu anrheg Nadolig ychwanegol i blentyn anghenus

Gofynnir i siopwyr gofio prynu anrheg Nadolig ychwanegol er mwyn helpu teuluoedd anghenus yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'r Cynllun Teganau Nadolig wedi ei lansio er mwyn helpu pobl sydd mewn dyfroedd dyfnion yn ariannol.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydweithio â mudiadau lleol i gynnal y fenter hon.

Gofynnir i bobl gyfrannu teganau newydd ar gyfer plant a phobl ifanc, yn fechgyn ac yn ferched, o'r crud hyd nes eu bod yn 16 oed. Mae'n rhaid i'r teganau fod yn rhai newydd am resymau iechyd a diogelwch, ac argymhellir bod pobl yn gwario o leiaf £5 y tegan.

Mae mannau casglu ar gael fel a ganlyn: Llanelli - Tŷ Elwyn, Neuadd y Dref a Swyddfa'r Llanelli Star, Stryd Cowell; Caerfyrddin - Neuadd y Sir, Heol Spilman a Swyddfa'r Carmarthen Journal; Rhydaman - Neuadd y Dref, a Swyddfa'r Guardian, Stryd y Cei.

Hefyd bydd mannau casglu eraill yn cael eu trefnu yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Pam Palmer, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Y llynedd roeddem wedi estyn cymorth i gannoedd o deuluoedd drwy'r cynllun Teganau Nadolig, ac rydym am sicrhau bod hyd yn oed fwy na hynny'n cael cymorth eleni.

"Roedd pobl mor hael a charedig fel ein bod wedi cael ein syfrdanu gan nifer yr anrhegion a'u hansawdd.

"Rydym yn sylweddoli ei bod hi'n gyfnod anodd i lawer o bobl ond os gall pobl brynu dim ond un anrheg ychwanegol wrth siopa Nadolig, bydd hynny'n golygu bod Nadolig plentyn anghenus ychydig bach yn llai llwm.

I gael rhagor o wybodaeth gweler www.sirgar.gov.uk neu cysylltwch â Victoria Wilson drwy ffonio 01267 224011 neu anfon neges e-bost at VLWilson@sirgar.gov.uk

 

Rhannu |