Mwy o Newyddion
Gadewch i Lywodraeth Cymru reoleiddio’r farchnad ynni
Mae Plaid Cymru unwaith eto wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud ei rhan i rhoi terfyn ar yr annhegwch yn y sector ynni. Yn ystod dadl Plaid Cymru, amlinellodd Simon Thomas AC yr hyn oedd yn ei farn ef yn elw gormodol gan gwmnïau ynni, gan alw ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at ddatganoli polisi ynni fel y gall amddiffyn pobl Cymru rhag arferion annheg.
Mae defnyddwyr Cymru yn talu rhwng 5-10% yn fwy am eu hynni na mannau eraill yn y DG oherwydd seilwaith ynni gwaeth, methiant cystadleuaeth i weithio yn y farchnad, a’r ffaith fod y stoc tai yn hŷn.
Dywedodd AM Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Simon Thomas: “Wrth i’r gaeaf agosáu, mae teuluoedd yn ei chael yn anos fyth talu eu biliau gwresogi, ac eto mae’r cwmnïau ynni yn medi elw anferthol. Ond ni allwn amddiffyn defnyddwyr Cymru rhag codiadau prisiau heb gael mwy o bwerau dros ynni a’r gallu i reoleiddio’r farchnad ynni yng Nghymru.
“Mae’n amlwg fod angen gwneud rhywbeth. Dyw hi ddim yn deg i ddefnyddwyr Cymru dalu 5 neu 10 y cant yn fwy am eu hynni na mannau eraill yn y DG. Rydym wedi clywed honiadau am osod prisiau, a hynny ar adeg pan ddengys y ffigyrau fod miloedd mwy yn marw yn y gaeaf bob blwyddyn. Os gwelir bod y cwmnïau ynni wedi bod yn gosod prisiau yn annheg, yna bydd angen iddynt ateb cwestiynau difrifol iawn am y marwolaethau ychwanegol hynny.
“Mae Plaid Cymru yn argyhoeddedig mai datganoli pwerau dros ynni yw’r unig ffordd i amddiffyn cwsmeriaid Cymreig rhag yr arferion annheg sy’n digwydd yn y farchnad ynni.
“Ond rydym hefyd am i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r pwerau sydd ganddynt eisoes i helpu mwy o bobl. Trwy ymestyn cynllun Arbed, fe allem helpu mwy o deuluoedd i leihau eu biliau ynni trwy wneud eu cartrefi yn fwy ynni-effeithlon - gallai hyn gael effaith sylweddol ar eu biliau. Biliau gwresogi yw un o’r pryderon mwyaf i deuluoedd Cymru y gaeaf hwn, a buasai llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud llawer iawn mwy i’w helpu.”