Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Tachwedd 2012

Cytundeb nawdd newydd i’r Urdd

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi sicrhau cytundeb nawdd newydd gyda Chymdeithas Adeiladu Principality fel prif noddwyr cystadlaethau cenedlaethol cynradd Adran Chwaraeon yr Urdd, gynhelir yn Aberystwyth ym mis Mai.

Mae dros 2,000 o blant cynradd yn cystadlu fel rheol, sydd oll wedi ennill eu rowndiau cylch a sir yn erbyn dros 10,000 o aelodau eraill.  Byddant yn cystadlu mewn pêl-droed, pêl-rwyd a thrawsgwlad.

Roedd Principality yn awyddus i gefnogi digwyddiad ieuenctid, mewn lleoliad gwledig, oedd yn hyrwyddo ffordd iach o fyw ac roedd cystadleuaeth derfynol cynradd yr Urdd yn cynnig union hyn iddynt.

Yn ôl Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon yr Urdd, “Rydym yn hynod o falch fod Principality yn gallu cynnig y gefnogaeth ariannol hon i un o’n prif ddigwyddiadau yn y calendr chwaraeon.  Rydym angen 30 dyfarnwyr, 11 cae chwarae a 25 aelod o staff i weinyddu’r digwyddiad mawr hwn, ac mae’r nawdd yma yn hynod werthfawr i ni.  Mae Principality wedi sefydlu eu hunain ers blynyddoedd fel cwmni sydd yn cefnogi diwylliant a chwaraeon yng Nghymru ac mae’r ffaith eu bod wedi ymestyn eu cefnogaeth i’n cystadleuaeth chwaraeon cynradd yn wych.  Rydym yn edrych ymlaen at berthynas ffrwythlon.”

Ychwanegodd Graeme Yorston, Prif Weithredwr Principality, “Yn y gorffennol rydym wedi noddi Eisteddfod yr Urdd ac Ysgoloriaeth Bryn Terfel ond rydym wastad yn chwilio am gyfleoedd newydd i noddi ac yn teimlo fod cefnogi Cystadlaethau Cynradd Cenedlaethol yr Urdd yn gynnig gwych i ni.  Mae’r nawdd hwn yn cwrdd â’n anghenion o ran cefnogi pobl ifanc yn ein cymunedau ar draws Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at y cystadlu yn Aberystwyth ym mis Mai.”

 

Rhannu |