Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Tachwedd 2012

Dathlu dwyieithog ym mhyllau nofio Gwynedd

Am y tro cyntaf, bydd Gwasanaeth Hamdden Cyngor Gwynedd yn rhoi tystysgrifau nofio dwyieithog i blant a phobl ifanc am eu gallu yn y pwll.

Yn 2013 bydd gwersi nofio yng nghanolfannau hamdden Gwynedd yn dilyn cynllun Nofio Cymru, sydd yn cynnig tystysgrifau Cymraeg a Saesneg.

Mae sicrhau fod pob plentyn yn y sir yn cael cynnig dysgu nofio yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd - mae’n sgil bwysig allai achub bywyd a hefyd yn ffordd dda o gadw yn iach a heini.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer Gwynedd Iach: “Mae gwersi nofio yn ffordd wych o annog a chefnogi ein pobl ifanc i ddewis ffyrdd iach o fyw, ac yn rhan o’n gweledigaeth ehangach o ddatblygu Gwynedd Iach.

“Er mwyn datblygiad cyson yn ystod gwersi, mae plant sy’n cael gwersi ym mhyllau nofio Gwynedd yn anelu i gyrraedd y safon, a derbyn tystysgrif am eu cyrhaeddiad.

“Yn dilyn gwaith caled a dyfalbarhad gan swyddogion y Cyngor, rydw i’n falch o gael dweud y bydden yn gallu rhoi tystysgrifau Cymraeg i blant y sir i ddathlu eu llwyddiant yn y pwll.”

Am fwy o wybodaeth am wersi nofio, a phob math o gyfleon eraill i gadw’n heini, cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol. Mae manylion cyswllt ar ein gwefan www.gwynedd.gov.uk/hamdden

 

Rhannu |