Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Tachwedd 2012

Rhodd o $10,000 i’r Urdd

Mae mudiad ieuenctid Urdd Gobaith Cymru wedi derbyn rhodd o $10,000 gan Gapel Cymraeg Los Angeles er mwyn cefnogi’r gweithgareddau maent yn ei ddarparu ar gyfer eu 50,000 o aelodau ar draws Cymru.

Bydd y capel yn cau ddiwedd y flwyddyn, o ganlyniad i ostyngiad yn nifer yr aelodau, ac mae cyfraniad o $10,000, sydd oddeutu £6,000, wedi cael ei drosglwyddo i’r Urdd.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i brynu adnoddau yng ngwersylloedd Glan-llyn a Llangrannog, ac i gefnogi y gwasanaethau fydd yn cael eu cynnal gan aelodau’r Urdd mewn capeli ledled Cymru ar Sul yr Urdd, 18 Tachwedd.

Cafodd y capel yn L.A ei sefydlu yn 1888 gan y Parchedig David Hughes o Lanuwchllyn, ac roedd y gwasanaethau yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.  Roedd gan y capel gôr ganodd yn y ffilm enillodd Oscar, ‘How Green Was My Valley’.  Ffynnodd y capel am amryw o flynyddoedd, ond yn ddiweddar gostyngodd nifer yr aelodau o ganlyniad i bobl yn gadael yr ardal ac aelodau hŷn yn ei gweld hi’n anodd teithio i’r capel.

Yn ôl Mai Parry Roberts, Cyfarwyddwr Busnes yr Urdd a Dirprwy Brif Weithredwr, “Mae’r $10,000 sydd wedi roi i ni gan y Capel Cymraeg yn Los Angeles yn mynd i fod yn ddefnyddiol iawn i gynnal gwaith ein gwersylloedd yng Nglan-llyn a Llangrannog.  Rydym yn ffodus iawn o dderbyn rhoddion hael yn flynyddol, ac mae’r cronfeydd hyn yn allweddol i ddatblygu’r gwasanaethau rydym yn ddarparu i’n haelodau.”

Ychwanegodd Frank Williams, aelod o Gapel Cymraeg Los Angeles sydd yn wreiddiol o Garmel, “Roedd gennym 5 aelod hŷn yn y Capel, a gwnaethom restr yr un o bwy fyddem ni yn hoffi rhoi arian iddynt.  Mi wnes i ddadlau yn gryf y dylai y rhan fwyaf o’r arian fynd i Gymru a sefydliadau Cymreig yn yr Unol Daleithiau.

Urdd Gobaith Cymru oedd ar frig fy rhestr i, gan fod y talent cerddorol sydd yng Nghymru yn anhygoel ac roeddwn i eisiau helpu i feithrin y talent hwnnw.”

 

Rhannu |