Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Tachwedd 2012

Parcio am ddim i siopwyr rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

PARCIO am ddim i siopwyr ledled Sir Gaerfyrddin yw adduned blwyddyn newydd y Bwrdd Gweithredol.

Maent wedi argymell bod pobl yn cael parcio am ddim yn holl feysydd parcio cyhoeddus y cyngor sir rhwng Rhagfyr 26ain ac Ionawr 1af. Golyga hyn fod y Cyngor yn colli £20,000 o incwm ar ffurf ffïoedd parcio.

Cymerir y cam hwn er mwyn helpu masnachwyr ac annog rhagor o siopwyr i ymweld â chanol trefi ar ôl y Nadolig.

Daethpwyd i'r casgliad y byddai gwneud hyn yn ystod yr wythnos rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd o fwy o fudd i fusnesau na'r wythnos a fwriadwyd yn wreiddiol sef rhwng Ionawr 2il ac Ionawr 8fed.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae pobl wedi gallu parcio am ddim yn ystod y pythefnos cyn y Nadolig, ar gost o tua £70,000 i'r Cyngor.

Fodd bynnag, dywedodd yr aelodau o'r Bwrdd Gweithredol, o ystyried y sefyllfa ariannol sydd ohoni a bod cyllidebau filiynau o bunnoedd yn llai, na fyddai'n bosibl caniatáu i bobl barcio am ddim eleni.

Wedi dweud hynny, roedd y Bwrdd Gweithredol am gefnogi masnachwyr mewn rhyw ffordd a phenderfynwyd y gallai pobl barcio am ddim rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn newydd yn lle hynny.

Roedd adroddiad a roddwyd gerbron y Bwrdd Gweithredol heddiw yn nodi bod ystyriaeth ofalus wedi ei rhoi i barcio am ddim, ac roedd wedi nodi bod y meysydd parcio wastad yn llawn cyn y Nadolig. Felly roedd yn gwneud synnwyr i annog siopwyr i ddod i ganol y trefi yn y cyfnod tawel ar ôl y Nadolig i helpu masnachwyr.

Hefyd roedd yr adroddiad yn nodi tra bo'r sefyllfa economaidd anodd yn parhau a bod y gwaith adfywio'n mynd rhagddo, fod y cyngor wedi cefnogi canol trefi drwy alluogi pobl i barcio am ddim yn Llanelli ac yn Rhydaman.

Roedd trefi gwledig yn dal i elwa ar ffïoedd parcio is ac roedd gan Gaerfyrddin wasanaeth parcio a theithio.

Dywedodd y Cyng. Kevin Madge, Arweinydd y Cyngor: “Mae llawer o ddiddordeb yn y mater hwn ac rydym ni wedi cael nifer o sylwadau yn ei gylch. Rydym ni'n gwrando ar fasnachwyr ac am eu helpu, ond hefyd mae'n rhaid inni ystyried y toriadau sylweddol i'r cyllidebau presennol. Yn ogystal mae'n rhaid inni flaenoriaethu ein gwasanaethau rheng flaen a sicrhau bod adnoddau gan y rheiny y mae mwyaf eu hangen arnyn nhw.

“Rydym ni'n gobeithio y bydd caniatáu i bobl barcio am ddim yn ystod yr wythnos benodol hon yn amlygu ein cefnogaeth a'n hymrwymiad i'r masnachwyr yng nghanol y trefi, a hynny heb inni fod cymaint ar ein colled ag mewn blynyddoedd blaenorol.”

Hefyd bu i'r Bwrdd Gweithredol gymeradwyo awgrym gan y Llanelli Star sef cynnig talebau parcio am ddim.

Penderfynwyd caniatáu i fodurwyr a oedd yn dangos taleb a argraffwyd yn y Llanelli Star barcio am ddim rhwng 10am a 2pm ar Noswyl y Nadolig, a dywedwyd y byddent yn fodlon ymestyn y cynnig i unrhyw bapurau newydd eraill yn Sir Gaerfyrddin a ddymunai fod yn rhan ohono.

 

Rhannu |