Mwy o Newyddion
Grŵp yn cyfarfod i gynghori ar y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg
Ddydd Mercher cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp a ddewiswyd i gynghori Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, ar y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.
Mae wyth ymgeisydd wedi cael eu penodi i’r grŵp cynghori. Maen nhw’n cynrychioli amrywiaeth o gefndiroedd ac yn dod ag arbenigedd o wahanol sectorau addysg a hyfforddiant.
Maen nhw hefyd yn cynrychioli gwahanol ardaloedd daearyddol a’r materion a’r heriau amrywiol sy’n wynebu’r ardaloedd hynny.
Yn ystod y cyfarfod cyntaf, trafodwyd cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar a sgiliau Cymraeg yr ymarferwyr.
Dywedodd Leighton Andrews: “Roedd lansio ein Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn gam mawr ymlaen ar gyfer gosod cyfeiriad strategol i addysg cyfrwng Cymraeg.
“Mae aelodau fy ngrŵp cynghori newydd i yn dod â’u profiadau a’u syniadau eu hunain gyda nhw, a fydd yn chware rôl bwysig wrth gynghori ar gynnydd y strategaeth.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda’n holl bartneriaid i sicrhau bod targedau 2015 yn y Strategaeth yn cael eu cyrraedd. Byddwn yn sicrhau hefyd fod y Strategaeth yn cyd-fynd â’r gwaith sy’n cael ei wneud i gynyddu a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau, a’i bod yn cefnogi’r gwaith hwnnw.”
Nod y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, a gafodd ei chyhoeddi yn 2010, yw datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg effeithiol, o’r ysgol feithrin hyd at addysg bellach ac uwch, ac mae iddi gynllun gweithredu manwl a thargedau penodol ar gyfer deilliannau.