Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Tachwedd 2012

10,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu hyfforddi fel Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Mae 10,000 o bobl ar draws Cymru wedi cael eu hyfforddi i adnabod symptomau problemau iechyd meddwl, ac wedi cael eu haddysgu ar sut i ymdrin â phobl sydd â phroblem a chynnig cymorth iddyn nhw.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) a ddarperir gan Mind Cymru. Dechreuodd y rhaglen yn 2007, ac erbyn y mis hwn mae 10,000 o bobl wedi cymryd rhan.

Mae’r cwrs yn addysgu pobl am broblemau iechyd meddwl ac yn rhoi iddynt y sgiliau angenrheidiol i helpu pobl mewn argyfwng. Mae’n cwmpasu problemau iechyd meddwl cyffredin fel alcohol, cyffuriau ac iselder, cymorth cyntaf mewn argyfwng i rai sy’n ymddwyn mewn ffordd a allai arwain at hunanladdiad, cymorth cyntaf i rai sy’n dioddef o or-bryder a phyliau o banig, a phroblemau eraill fel hunan-niweidio.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths: “Mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar ohonom bob blwyddyn. Ond nid oes gan y rhan fwyaf ohonom y sgiliau na’r hyder i gefnogi cydweithwyr neu ffrindiau yn y modd cywir.

“Y mis diwethaf lansiais y Strategaeth iechyd meddwl gyntaf i Gymru sy’n cwmpasu pobl o bob oedran. Mae Law yn Llaw at Iechyd yn nodi ein dyheadau ar gyfer gwella iechyd meddwl a’n gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn yr 21ain ganrif.

“Mae’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn hanfodol er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn gwella o salwch meddwl drwy fesurau ataliol ac ymyrraeth gynnar.

“Rwyf wrth fy modd fod cynifer o bobl yn cael eu hyfforddi i fod yn Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer pawb. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn dweud eu bod yn mwynhau’r cwrs ac yn teimlo’n llawer mwy hyderus y gallant gynnig y cymorth cywir i rywun â phroblem iechyd meddwl.

“Yn ogystal â darparu help i’r sawl sydd ei angen, nod y cwrs yw gwella ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl yn y gweithle ac ymysg y cyhoedd yn gyffredinol. Bydd yn helpu i leihau stigma, yn annog pobl i geisio help ac yn darparu ymyrraeth gychwynnol cyn bod cymorth proffesiynol yn cyrraedd.

“Hoffwn i weld y cwrs yn mynd o nerth i nerth a gweld Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn cael ei gydnabod fel rhywbeth sydd yr un mor bwysig ag unrhyw fath arall o gymorth cyntaf.”

 

Rhannu |