Mwy o Newyddion
Rhoi diwedd ar system addysg “Thatcheraidd” yng Nghymru
Wythnos nesaf bydd addysgwyr, cynghorwyr, swyddogion, athrawon, llywodraethwyr ac ymgyrchwyr yn dod at ei gilydd mewn fforwm wedi ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith i drafod llunio system newydd o gyllido a rheoli ysgolion yng Nghymru.
Cyn-gadeirydd Pwyllgor Craffu Addysg y Cynulliad, Gareth Jones, fydd y siaradwr gwadd a fydd yn cyflwyno papur i'r Fforwm a fydd yn galw am ffordd radical o fynd i'r afael â chyllido integredig i ysgolion a mentrau ar gyfer dalgylch pob ysgol uwchradd.
Mae'r fforwm agored yn cael ei gynnal am 2pm ar ddydd Mawrth 13eg o Dachwedd yn ystafell Rhos ar Safle'r Fenai ym Mhrifysgol Bangor, ac yn cael ei agor yn swyddogol gan y Cyng. Dyfed Edwards, arweinydd Cyngor Gwynedd.
Esboniodd Ffred Ffransis, llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar Addysg: "Mae'r drefn gyllido a rheoli sydd gennym ar hyn o bryd wedi ei seilio ar syniadaeth llywodraeth Thatcher yr 1980au, a oedd yn ceisio hybu cystadleuaeth a chreu marchnad.
"Mae hyn wedi bod yn drychinebus, yn enwedig mewn ardaloedd gweledig Cymraeg ble mae angen am gydlynu adnoddau.
"Mae Cynghorwyr wedi bod dan bwysau i wneud penderfyniadau nad oeddynt yn eu ffafrio, ac mae rhieni a chymunedau lleol wedi eu halltudio.
"Dros ddegawd wedi datganoli mae'n hen bryd i ni ddyfeisio system newydd integredig ar gyfer cyllido a rheoli ysgolion, yn seiliedig ar ein traddodiadau a'n hamcan am gydweithio."