Mwy o Newyddion
Animeiddwyr ifanc yn lansio ffilm am wahaniaethau
Mae criw o animeiddwyr ifanc wedi lansio ffilm fer i godi ymwybyddiaeth o’r mathau o wahaniaethu sy’n wynebu grwpiau o bobl ifanc.
Mae chwech o bobl ifanc rhwng 14 ac 18 oed wedi bod yn gweithio gydag elusen Achub y Plant fel aelodau o Banel Ieuenctid yr Uned Gyfranogaeth er mwyn cael llais ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Cafodd y prosiect animeiddio ei ariannu gan Cyrraedd y Nod, sef cynllun gan Lywodraeth Cymru wedi ei gyllido gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae Panel Ieuenctid Achub y Plant yn cynnwys gofalwyr ifanc, Mwslemiaid ifanc, person ifanc a arferai fyw o dan y system ofal a pherson ifanc mewn addysg amgen. Yn ystod eu bywydau maent oll wedi profi rhyw elfen o wahaniaethu ac am rannu o’u profiadau er mwyn gwneud i bobl wrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud.
Mewn cyfres o weithdai aeth y criw ati i ysgrifennu cerddi a darlunio hunan-bortreadau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer yr animeiddiad Os Gwnei Di Wrando Arna i, sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Gweithiodd y criw gyda chwmni ffilm ac addysgol Winding Snake i gynnal gweithdai gyda thros ddeugain o bobl ifanc o bob cwr o Gymru er mwyn casglu safbwyntiau a phrofiadau o wahaniaethu. Drwy gydweithio cafodd y bobl ifanc gyfle hefyd i ddatblygu eu sgiliau animeiddio sylfaenol. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth ar gyfer y ffilm gan fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae’r ofalwraig ifanc Jodie Marie Williams, 16 oed o Faesteg, wedi bod yn helpu i ofalu am ei mam wedi iddi gael llawdriniaeth bedair blynedd yn ôl. Weithiau mae’n teimlo nad yw pobl yn deall ei sefyllfa ac nad yw pobl yn gwrando arni. Mae Jodie yn astudio ar gyfer ei Lefel A yn Ysgol Llanhari ac mae hi hefyd yn aelod o Grŵp Gofalwyr Ifanc Pen-y-Bont gyda’r elusen Action for Children.
Llais Jodie sydd i’w glywed ar y fersiwn Gymraeg o’r ffilm, a dywed ei bod wedi mwynhau gweithio ar y prosiect yn fawr ac mae’n gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc eraill. “Fe ddaeth y syniad ar gyfer y ffilm pan ddaeth hi’n amlwg ein bod ni i gyd wedi profi rhyw fath o wahaniaethu oherwydd ein sefyllfaoedd personol ni, ac mai dyma un o’r pethau anoddaf sy’n wynebu rhai pobl ifanc heddiw.
“Fe wnaethon ni siarad gyda phobl ifanc eraill o gwmpas Cymru am eu profiadau nhw hefyd ac er mwyn ffurfio'r negeseuon ehangach. Bydd y ffilm, gobeithio, yn helpu i addysgu pobl i drin pobl ifanc sydd efallai yn teimlo yn fregus oherwydd eu sefyllfaoedd personol, mewn ffordd wahanol. Rwy’n teimlo fy mod wedi cael llwyfan i fy llais.”
Lansiwyd y ffilm yn ddiweddar yn Cineworld Caerdydd gyda’r digwyddiad wedi ei lywio gan gyn-gyflwynwraig newyddion BBC Wales Today ac un sy’n cefnogi gwaith Achub y Plant, Jayne James.
Meddai Rebecca Horder o Uned Gyfranogaeth Achub y Plant: “Wedi gweithio gyda’r criw o bobl ifanc ysbrydoledig yma am bron i flwyddyn roedd yn wych i weld y ffilm yn cael ei dangos ar y sgrin sinema fawr ac i weld ymateb cadarnhaol y gynulleidfa i’r gwaith.
“Mae Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn nodi fod gan bobl ifanc yr hawl i gael llais mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau hwy. Ry’n ni’n gobeithio y bydd yr animeiddiad yn cael ei ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth o hawliau plant a phobl ifanc ac ry’n ni’n bwriadu ei ddosbarthu i ysgolion a cholegau, ymarferwyr a gwneuthurwyr polisi."