Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Tachwedd 2012

Efeilliaid talentog yn mynd amdani wrth anelu am Rio

Mae'r pencampwyr tenis bwrdd, yr efeilliaid Angharad a Megan Phillips, wedi rhoi'r gorau i’w lle yn y brifysgol er mwyn mynd amdani i ddilyn eu breuddwyd Olympaidd.

Yn lle hynny mae'r ddwy ddawnus, 18 oed o Ddinbych, wedi dewis treulio eu hamser yn derbyn hyfforddiant mewn gwledydd fel Romania a'r Almaen lle mae safon y gystadleuaeth yn uwch.

Yn ôl yr efeilliaid, maen nhw wedi cyrraedd eiliad dyngedfennol yn eu gyrfaoedd tenis bwrdd.

Yr haf yma fe wnaethon nhw wneud yn ardderchog yn eu harholiadau Safon Uwch gan lwyddo i gael cyfanswm o bedair gradd A a dwy radd A* rhyngddynt ond maen nhw wedi gohirio mynd i'r brifysgol er mwyn parhau i ganolbwyntio’n llawn amser ar denis bwrdd.

Mae eu hymgais i gyrraedd Gemau Olympaidd Rio 2016 yn cael ei gefnogi i'r carn gan eu rhieni, Tegid a Sue Phillips.

Mae'r sêr ifanc yn awr yn chwilio am noddwyr er mwyn helpu i dalu'r costau enfawr sy'n gysylltiedig â hyn.

Dywedodd Angharad, yr ieuengaf o'r ddwy - o funud: "Mae'r ddwy ohonom wedi sicrhau lle yn y Brifysgol ond gallwn fynd yn ôl at hynny ar unrhyw adeg - ond ni fyddem byth yn gallu adennill y safon yma o chwarae tenis bwrdd pe baem yn cymryd seibiant.

"Hefyd, mae Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow ar y gorwel yn 2014, ac mae hynny’n darged mawr i ni.

"Mae mynd yn amser llawn yn sicr yn gam mawr oherwydd fel arfer pan oeddem yn yr ysgol byddai'n rhaid i ni dorri lawr ar ein hyfforddiant adeg arholiadau neu pan fyddai angen i ni wneud llwyth o waith cwrs neu waith cartref.

"Erbyn hyn rydym canolbwyntio'n llwyr ar denis bwrdd, felly mae popeth yn troi o gwmpas hyfforddiant a chystadlu"

Erbyn hyn mae'r efeilliaid, sydd wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2010 yn Delhi Newydd yn yr India, yn cael hyfforddiant ac yn cystadlu ym mhob rhan o Ewrop mewn gwledydd fel Romania, Yr Almaen, Gwlad Belg, Hwngari, Denmarc a Serbia.

Dywedodd Tegid, sydd wrth reswm yn dad balch: "Beth maen nhw wedi’i weld mewn llefydd fel Romania yw bod dwyster y sesiynau wedi bod yn llawer mwy oherwydd dim ots gyda phwy yr oeddent yn hyfforddi, roedd ansawdd uchel ar ochr arall y bwrdd.

"Dyna beth rydym yn gobeithio fydd yn eu gwella, ac y byddant yn cael y cysondeb yma o ddwyster a fydd yn ei dro yn cael effaith gadarnhaol ar eu perfformiad pan fyddant yn cymryd rhan mewn cystadlaethau."

Camp leiafrifol yw tenis bwrdd yng Nghymru ac nid yw'n denu llawer iawn o arian. O ganlyniad mae'n rhaid i’r efeilliaid ddod o hyd i'r mwyafrif helaeth o'r arian sydd ei angen arnynt, er mwyn gallu teithio dramor i gymryd rhan mewn cystadlaethau a mynychu gwersylloedd hyfforddi.

Dywedodd Angharad: "Rwy'n credu y byddai nawdd a chefnogaeth o unrhyw fath yn help enfawr oherwydd mai’r arian sydd ar gael i denis bwrdd yng Nghymru a Phrydain yn gyfyngedig iawn.

"Byddai'n help gwirioneddol i'n hariannu ni i fynd dramor yn amlach oherwydd dyna sydd angen i ni ei wneud er mwyn cymryd y cam nesaf i wella ein gêm"

Ychwanegodd Tegid: "Mae’r ddwy yn bobl ifanc ddwyieithog sy’n cymryd rhan mewn camp iach, egnïol y mae gan y rhan fwyaf o bobl waeth beth fo'u hoedran rhyw fath o gysylltiad ag ef."

Yn sicr mae doniau chwaraeon yn rhedeg yn y teulu Phillips gan fod Tegid wedi chwarae pêl-droed dan 19 oed dros Gymru. Mae taid y merched, Les Phillips, sef tad Tegid, wedi cynrychioli Prydain Fawr mewn taflu'r ddisgen tra bod eu hewythr, John Phillips wedi cynrychioli Prydain Fawr yn y naid driphlyg. Yn fwy diweddar cafodd eu cefnder Ben Lovell, ei goroni yn Bencampwr Beicio Mynydd Cymru.

Dywed Megan iddi gael ei hysbrydoli gan ei theulu wrth dyfu i fyny.

Meddai: "Pan oeddwn i’n ifanc ac yn darganfod bod cymaint o’r nheulu wedi cynrychioli Cymru a Phrydain, roeddwn yn rhyfeddu at eu camp, ac fe gododd hynny awydd ynof i wneud rhywbeth tebyg."

Dechreuodd taith y merched yn 2005 pan brynodd eu rhieni fwrdd tenis bwrdd fel anrheg Nadolig.

Dywedodd Megan: "Wel, fe wnaethon ni ofyn am naill ai bwrdd tenis bwrdd neu fwrdd pêl-droed bwrdd fel presant Dolig, ac fe gawson ni fwrdd tenis bwrdd, ac fe wnaethon ni ddefnyddio hwnnw am ryw flwyddyn, ac yna fe wnaethon ni benderfynu mynd draw i'r clwb lleol yn Ninbych."

Cafodd dawn y ddwy ei adnabod gan yr Hyfforddwr Cenedlaethol Alan Griffiths a aeth ati'n gyflym i'w recriwtio i dîm dan 12 oed Cymru.

Ers hynny, rhyngddynt mae’r ddwy wedi ennill nifer trawiadol o deitlau, gan gynnwys teitlau iau ac uwch Cymru a theitlau Prydeinig mewn cystadlaethau senglau a dyblau.

Yn 16 oed gwnaeth yr efeilliaid y penderfyniad mawr i symud lawr i Gaerdydd lle buont yn astudio ar gyfer eu lefel A yn ysgol cyfrwng Cymraeg Ysgol Glantaf.

Ychwanegodd Megan: "Roedd gadael cartref yn foment fawr yn ein bywydau, ac o ganlyniad rwy'n credu ein bod wedi gorfod bod yn annibynnol o oed cynnar."

Wrth esbonio'r rheswm dros symud, dywedodd Tegid: "Mae llawer o'r mecanwaith cefnogi hyfforddi mewn tenis bwrdd i lawr yn ardal Caerdydd.

"Fe gawson nhw hyfforddiant ychwanegol mewn tenis bwrdd ac fe wnaethon nhw gamu i lefel arall oherwydd dwysedd a hyd yr hyfforddiant ac oherwydd ansawdd yr hyfforddiant yr oedden nhw’n ei gael."

Mae colli allan ar Lundain 2012 wedi’u gwneud yn fwy penderfynol nag erioed i gyrraedd Rio 2016.

Ar y cychwyn, maent wedi ymrwymo i ganolbwyntio ar chwarae tenis bwrdd amser llawn am y ddwy flynedd nesaf hyd at Gemau'r Gymanwlad Glasgow 2014. Os bydd pethau'n mynd yn ôl y cynllun, byddant wedyn yn mynd amdani i gyrraedd Rio 2016.

Dywedodd Megan: "Byddai cyrraedd Rio yn golygu popeth i ni, gan y byddai'n golygu fod yr holl flynyddoedd o waith caled, ymrwymiad ac aberth wedi bod werth chweil."

Dylai noddwyr posib, neu unrhyw un sy'n teimlo y gallent ddarparu unrhyw fath o gymorth gysylltu â Tegid Phillips naill ai drwy anfon e-bost ato yn tegidphillips@hotmail.co.uk neu drwy ei ffonio ar 01745 812375 neu 07901 297397.

 

Rhannu |