Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Tachwedd 2012

Pysgod estron rheibus yn peri problemau

Mae pysgod estron rheibus yn ymosod ar fywyd gwyllt pyllau a llynnoedd yn Llanelli.

Bellach mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn cymryd camau cryfion i gael gwared â'r rhywogaeth estron hon sy'n hynod o ymledol ac sy'n bygwth y poblogaethau cynhenid mewn nifer o lynnoedd yn Llanelli.

Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd yr Asiantaeth yn gollwng cemegyn mewn dau lyn ym Mharc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli er mwyn lladd y pysgod estron hyn ac yna eu codi o'r safle.

Yn gyntaf bydd y llynnoedd yn cael eu draenio'n rhannol gan yr Asiantaeth gyda chymorth gan y parcmyn a fydd yn codi'r pysgod cynhenid, megis cerpynnod, ysgretennod, rhufellod a rhuddbysgod, i'w diogelu.

Er bod y cemegyn yn wenwynig i bysgod nid yw'n effeithio ar bobl, adar nac anifeiliaid.

Dywedodd y Cynghorydd Meryl Gravell, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Hamdden: “Er bod yr ymgyrch waredu hon yn anghyfleus mae'n angenrheidiol ac rydym yn falch o gael cefnogaeth a chymorth gan yr Asiantaeth.

“Bydd cynnal yr ymgyrch hon yn dwyn llawer o fanteision yn ei sgil.

“Yn ogystal â gwaredu'r rhywogaeth reibus, bydd yr ymgyrch yn gyfle i godi'r chwyn o'r pysgodfeydd gan sicrhau bod y llynnoedd hyn ym Mharc Arfordirol y Mileniwm yn atyniad o bwys unwaith eto i bysgotwyr.

“Mae nifer o bysgotwyr yn awyddus i gyflwyno system academi er mwyn rheoli pysgodfeydd y parc, ac mae'n dra phosibl taw'r dyna'r ffordd ymlaen ar ôl i'r ymgyrch hon gael ei chwblhau.”

Pysgodyn bychan sy'n hanu o Asia yw'r symlyn safnuchel. Cafodd symlynnod safnuchel eu cludo'n ddamweiniol i Ewrop yn y 1960au yn sgil symud rhywogaethau eraill o bysgod.

Gan fod y rhywogaeth yn fach o ran maint, yn fynych mae'n gallu byw mewn dyfroedd heb i neb sylwi arni ar y cychwyn ond ymhen dim o dro mae'r boblogaeth yn gallu cynyddu'n aruthrol mewn llynnoedd a nentydd.

Pan fo niferoedd symlynnod safnuchel yn cynyddu maent yn gallu bod yn bla mewn cynefin trwy eu bod yn bwyta wyau'r holl rywogaethau eraill, gan beri'n fynych fod lleihad o ran niferoedd y pysgod cynhenid.

Gwelwyd taw'r dull gwaredu hwn yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gael gwared â'r rhywogaeth hon.

Bydd y llwybrau'n cael eu cau mewn rhannau bychan o Barc Arfordirol y Mileniwm drwy gydol cyfnod yr ymgyrch. Mae'r Asiantaeth a Chyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn i'r cyhoedd gadw draw o'r llwybrau hynny yn ystod y cyfnod cau.

Dywedodd Steve Brown, o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru: “Y cam cyntaf yw hwn mewn rhaglen helaeth i gael gwared â rhywogaeth estron a niweidiol o'n dyfroedd yng Nghymru.

“Ni ddylai rhywogaethau fel symlynnod safnuchel fod yn ein hafonydd a'n llynnoedd. Mae'n hollbwysig ein bod yn gwneud ein gorau nawr i gael gwared â nhw cyn iddyn ymledu rhagor ac effeithio'n andwyol ar ein pysgod cynhenid.

“Pobl, a hynny'n gwbl ddiarwybod, sy'n gyfrifol am y ffordd fwyaf cyffredin o gludo'r rhywogaeth hon o lyn i lyn, felly rydym yn gofyn i bysgotwyr archwilio eu hoffer gan eu glanhau a'u sychu'n ofalus ar ôl eu defnyddio er mwyn helpu i atal y rhywogaeth rhag ymledu ymhellach.”

Ar ôl llwyddo i waredu'r symlynnod safnuchel o'r ddau lyn hyn ym Mharc Arfordirol y Mileniwm, bydd yr Asiantaeth yn bwrw ati yn y Flwyddyn Newydd i gynnal ymgyrch waredu ar raddfa fwy mewn tri llyn mawr arall ym Mharc Arfordirol y Mileniwm.

Bellach mae symlynnod safnuchel wedi ymsefydlu mewn 23 o ddyfroedd yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r rhaglen hon yn cael ei chynnal yn unol â nod Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a Llywodraeth Cymru sef cael gwared â symlynnod safnuchel o'r holl safleoedd hynny erbyn 2017.

Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r awdurdod gorfodi mewn perthynas â'r Ddeddf Mewnforio Pysgod Byw, ac mae'n ddyletswydd arni i reoli a, lle bo hynny'n briodol, i gael gwared â rhywogaethau estron ymledol a niweidiol.

I gael rhagor o wybodaeth am rywogaethau ymledol gweler www.nonnativespecies.org

 

Rhannu |