Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Tachwedd 2012

Pantomeim disglair seren y West End

Seren deledu a llwyfan y West End yw’r dyn sy’n gyfrifol am y pantomeim disglair fydd yn un o uchafbwyntiau dathliadau’r Nadolig eleni ym Metws-y-Coed.

Cynhyrchydd a chyfarwyddwr Sinderela yw Craig Ryder, a gafodd ei eni yn Nyffryn Conwy ac sydd wedi ymddangos gyda Jason Donovan yn y sioe gerdd lwyddiannus Priscilla Queen of the Desert ac a fu hefyd yn un o gymeriadau rheolaidd Pobol y Cwm ar y teledu.

Bydd llu o bobl ifanc dalentog o academi lwyfan Craig yn perfformio yn y pantomeim poblogaidd yn ystod parti tymhorol arbennig yn y dref, a drefnwyd ar gyfer dydd Sadwrn a dydd Sul, y 1af a’r 2il o Ragfyr.

Cefnogir y dathliadau gan Gymorth Busnes Gwledig Conwy, gwasanaeth am ddim i fusnesau micro sydd â 10 neu lai o weithwyr ac sy’n cynnig cyngor, cyfleoedd marchnata a chyllid i gynorthwyo’r busnes i ehangu, cynyddu elw a gwella effeithlonrwydd.

Ymysg uchafbwyntiau digwyddiadau eleni bydd gorymdaith llusernau ar y ddau ddiwrnod a Gwersyll Siôn Corn – sy'n cefnogi Hosbis Dewi Sant - lle bydd corachod yr hen ddyn clên yn trefnu gweithgareddau celf a chrefft yn ei babell fawr.

Cynhelir ffair draddodiadol fechan ym maes parcio Ffordd yr Orsaf, gydag olwyn fawr a thrampolinau bynjî, ac ar y ddau ddiwrnod bydd yno arddangosfa tân gwyllt gwych ar Cae Llan ac ar y bore Sul cynhelir Ras Siôn Corn wedi’i threfnu gan Rhedeg Cymru a fydd hefyd yn cefnogi Hosbis Dewi Sant.

Ar y prynhawn Sadwrn a’r prynhawn Sul bydd pantomeim Sinderela yn cael ei lwyfannu yn Eglwys y Santes Fair gan Craig a thîm yr Academi, sef yr ysgol celfyddydau perfformio y mae wedi bod yn ei rhedeg am y tair blynedd diwethaf yn Llanrwst er mwyn helpu i baratoi'r ffordd i enwogrwydd ar gyfer pobl ifanc yng Ngogledd Cymru.

Cafodd Craig ei eni a'i fagu yn Nolgarrog ac fe’i hyfforddwyd ar gyfer ei yrfa ddisglair yn gyntaf o dan arweiniad Joy Ostle a Theatr Ieuenctid Genedlaethol Cymru ac yn ddiweddarach yn sefydliad byd-enwog Syr Paul McCartney ar gyfer y Celfyddydau Perfformio yn Lerpwl lle cafodd BA (anrh.) mewn Actio.

Mae ei waith theatr yn cynnwys rôl Khashoggi yn nhaith y DU o sioe gerdd We Will Rock You a rhan Willy yn nhaith Copacabana ar draws y DU.

Hefyd fe wnaeth Craig, sy'n dal i fyw yn Nyffryn Conwy, gymryd ei dro gyda Jason Donovan i chwarae rhan Tick yng nghast gwreiddiol cynhyrchiad y West End o Priscilla Queen of the Desert.

Ar y teledu, chwaraeodd ran gymeriad Dylan yn opera sebon Pobol y Cwm ar S4C am 10 mlynedd ac mae hefyd wedi ymddangos ar Comic Relief, Blue Peter a’r Al Murray Show.

Ym mis Tachwedd, gallwch ei weld ar raglen Tîm Talent ar S4C, lle bydd yn helpu pobl ifanc i roi sglein sioe broffesiynol ar eu cynyrchiadau ysgol, a bydd hefyd yn chwarae cymeriad mewn pennod o’r ddrama gomedi Boxroom Babies gan cwmni cynhyrchu annibynnol, ac sy’n sôn am bobl yn eu tridegau yn symud yn ôl i fyw gyda'u rhieni.

Bydd y pantomeim y mae’n ei gynhyrchu ym Metws-y-Coed yn cynnwys o leiaf 50 o'i fyfyrwyr gorau, rhwng pedair a 18 oed, a bydd yn cynnwys yr holl hwyl “mae o tu ôl i chi" arferol.

Ar ôl y ddwy sioe, bydd y perfformwyr ifanc yn cymryd rhan yng ngorymdaith fawr y Nadolig ar hyd prif stryd y dref a bydd rhai ohonynt yn cerdded ar stiltiau.

Dywedodd Craig: "Rydym ar hyn o bryd yn ymarfer yn galed ar gyfer y panto ac yn cael amser gwych. Mae pob un o'r plant yn llawn cyffro am y peth, yn enwedig y cerdded ar stiltiau – a fydd yn dipyn o her.

"Yn sicr bydd rhai o'r cast yn cerdded ar stiltiau yn yr orymdaith ac rydym hefyd yn edrych ar sut y gallwn gynnwys hyn fel rhan o'r panto.

"Mae'r bobl ifanc o’r academi i gyd mor dalentog rwy'n siŵr y bydd y sioe yn un wirioneddol wych a fydd yn codi hwyliau pawb wrth agosáu at y Nadolig.

“Rydym yn llwyfannu un neu ddwy o sioeau bob blwyddyn ac mae'r panto yn deillio o gynhyrchiad Nadolig llwyddiannus y llynedd ym Metws-y-Coed.

"Y bwriad gwreiddiol oedd ei berfformio yn yr awyr agored ond roedd y tywydd mor ddrwg ar y diwrnod nes i ni benderfynu ei symud dan do i Eglwys y Santes Fair lle cafwyd ymateb ardderchog gan y gynulleidfa."

Ychwanegodd: "Mae fy academi, sydd wedi'i lleoli yn Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst, yn gwneud yn dda iawn, ac ar hyn o bryd mae gennym tua 50 o fyfyrwyr yno sy’n dod draw o lefydd mor amrywiol â Rhuthun, Llandrillo-yn-Rhos a Chaergybi.

"Yn gynharach eleni, cymerodd rai o'r plant ran mewn gŵyl ddrama un act ac fe wnaethon nhw’n arbennig o dda o ystyried bod llawer o'r perfformwyr eraill yn oedolion."

Mae Anna Openshaw, y Swyddog Prosiect ar gyfer Cymorth Busnes Gwledig Conwy, wrth ei bodd eu bod yn cefnogi dathliadau’r Nadolig ym Metws-y-Coed eto eleni.

Dywedodd: "Mae'n addo bod yn wledd go iawn o hwyl ac adloniant tymhorol a fydd ar yr un pryd yn helpu i godi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant.

Am fwy o wybodaeth am y cymorth a'r cyngor am ddim sydd ar gael i fusnesau bach yng nghefn gwlad Conwy cysylltwch ag Anna Openshaw naill ai drwy anfon ebost at cbg@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 577834/5.

Llun: Craig Ryder

 

Rhannu |