Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Tachwedd 2012

FfotoAber yn cyhoeddi enillwyr ffotomarathon 2012

Cyhoeddwyd enillwyr ail ffotomarathon Aberystwyth yn ddiweddar.

Cynhaliwyd y ffotomarathon ar ddydd Sadwrn, 27 Hydref pan ddaeth dros 60 o unigolion cyffrous i grwydro strydoedd Aberystwyth gyda chamera neu ffôn symudol, yn chwilio am ongl greadigol ar gyfer eu ffotograffiaeth. Trefnwyd y ffotomarathon gan FfotoAber, gyda chefnogaeth Clwb Busnes Aberystwyth, â’r nod o brofi sgiliau ffotograffig y cystadleuwyr a hynny mewn ras yn erbyn amser. Mae'r gystadleuaeth yn herio’r cystadleuwyr i dynnu chwech ffotograff ar chwech thema o fewn chwech awr.

Y themâu, a ryddhawyd bob yn ddau bob dwy awr o 10yb, oedd:

  • Cylch (oedd);
  • y stryd;
  • edrych i mewn;
  • gwyrdd;
  • unigryw;
  • cysgod

Mewn seremoni a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Morlan nos Sul, datgelwyd y ffotograffau buddugol a cafodd y cystadleuwyr a’u cefnogwyr weld yr holl ddelweddau a dynnwyd yn ystod y ffotomarathon gan yr holl gystadleuwyr.

Dywedodd Harry James, cadeirydd Clwb Busnes Aberystwyth ac un o feirniaid y ffotomarathon eleni: "Cawsom ein plesio’n fawr gydag amrywiaeth a safon y ffotograffau, a’r modd y mae pob ymgeisydd wedi dehongli’r themâu. Cawsom ein plesio’n arbennig gan y categori ‘16 oed ac iau’  - mae dyfodol ffotograffiaeth yn edrych yn addawol iawn.”

Anna Irving yw enillydd y casgliad gorau yng nghategori 'camera gyda lens symudadwy'; Andrew Currie enillodd y categori 'camera gyda lens sefydlog'; Steffan Nicholas dderbyniodd y wobr yng ngahtegori'r rhai '16 oed ac iau'; a Mark Davies enillodd y casgliad gorau ar ffôn symudol.

Enillwyr y themâu unigol oedd: Tim Medcalf (cylch (oedd)); Leonie Doran (y stryd); Geraint Hughes (edrych i mewn ac unigryw); a Rhodri ap Dyfrig (gwyrdd a cysgod). Cyflwynwyd y rhain gyda phrint mawr o'u llun buddugol, a roddwyd gan Cambrian Printers.

Gwobrwywyd enillwyr y casgliadau hefyd, gyda Anna Irving yn derbyn taleb gan Ultracomida, Andrew Currie yn derbyn gwobr o £50 a roddwyd gan Keith Morris, cyflwynwyd Steffan Nicolas gyda thaleb gwerth £25 ar gyfer llyfr o'i ddewis gan yr asiantaeth gyfathrebu lleol 52-4 Cyf a derbyniodd Mark Davies daleb gan Gwesty Cymru.

Fel bonws ychwanegol, derbyniodd pob cystadleuydd galendr 2013 wedi eu cynllunio’n unigol i arddangos eu holl ddelweddau, diolch i Sprint@Cambrian Printers.

Dywedodd Catrin MS Davies o FfotoAber: "Rydym wrth ein boddau gyda’r brwdfrydedd a ddangoswyd yn ystod ail ffotomarathon Aberystwyth ac yn falch iawn gyda safon y delweddau. Mae'r awyrgylch a grëuir yn ystod y dydd yn un cynnes, brwdfrydig a chreadigol ac mae’r delweddau yn adlewyrchu agweddau amrywiol Aberystwyth. "

Arddangosir yr holl ddelweddau a dynnwyd yn y Morlan hyd 15 Tachwedd. Am fwy o wybodaeth ynghylch FfotoAber ewch i www.ffotoaber.com

Llun: Delwedd gan enillydd categori lens symudadwy, Anna Irving

 

Rhannu |