Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Tachwedd 2012

Prawf bod ymarfer corff yn lleihau iselder mewn cleifion canser

Mae ymarfer corff rheolaidd yn lleihau iselder ymysg cleifion canser, yn ôl Cymorth Canser Macmillan, yn dilyn yr astudiaeth gyntaf i fanteision hir dymor gweithgaredd corfforol o dan oruchwyliaeth ar gyfer cleifion canser yn ystod triniaeth.

Mae ymchwil newydd a gyllidwyd gan Macmillan wedi datgelu bod menywod a gymerodd ran mewn rhaglen ymarfer corff yn ystod triniaeth ar gyfer canser y fron bum mlynedd yn ôl, bellach yn gwneud tair awr ac ugain munud yn fwy o weithgaredd corfforol bob wythnos ar gyfartaledd na grŵp rheoli na fu’n cymryd rhan yn y rhaglen ymarfer yn ystod triniaeth.

Cymerodd 203 o fenywod ran yn y rhaglen ymarfer wreiddiol, a oedd o dan arolygaeth ac mewn grŵp, ac a barodd am 12 wythnos, yn ystod triniaeth am ganser y fron yn ystod ei gyfnod cynnar. Cafodd 87 ohonyn nhw eu hailasesu ar ddiwedd cyfnod o bum mlynedd. Dangosodd ganlyniadau’r astudiaeth bod menywod a oedd yn fwy actif yn gyson yn profi lefelau is o iselder a gwell safon byw o gymharu â’r rhai a oedd yn llai actif.

Gwnaed yr ymchwil gan dîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Strathclyde a Dundee ac fe’u cyhoeddwyd yn ddiweddar yn y Journal of Cancer Survivorship.

Elwodd Jane Newman, 47, o Pentre Brychdyn, Wrecsam, yn emosiynol ac yn gorfforol o wneud ymarfer corff i wrthsefyll blinder eithafol yn dilyn llawdriniaeth a chemotherapi ar gyfer canser y coluddyn. Cafodd Jane, sy’n ffotograffydd proffesiynol, ei chyfeirio at raglen ymarfer corff o dan ofal y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS), cynllun a gyllidwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Macmillan a NERS ar hyn o bryd yn gweithio mewn partneriaeth ar dri chynllun peilot yng Nghymru i asesu cleifion canser ac i siarad â nhw am fanteision gweithgaredd corfforol wedi diagnosis.

Meddai Jane: “Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd codi o’r gwely yn y bore ac roeddwn i am eisteddian drwy’r dydd heb wneud dim. Roedd gen i biti mawr drosof fi fy hun ac roedd yn gylch dieflig, ond sylweddolais yn weddol sydyn ‘mod i’n mynd yn fwy blinedig po leiaf yr oeddwn i’n ei wneud.

“Cefais wybod am y rhaglen NERS a bellach rydw i’n treulio tua 2 awr yn y pwll ar ddydd Llun, rydw i’n seiclo ar ddydd Mercher ac yn mynd i’r gampfa ar ddydd Gwener. Mae’r rhaglen ymarfer corff wedi gwneud lles i fi yn gorfforol ond rydw i hefyd mewn lle gwell yn feddyliol. Rydw i’n gorflino o hyd ond mae’r ymarfer corff yn gwneud i fi deimlo’n fwy byw ac yn barod i wynebu beth bynnag sydd gan fywyd i’w daflu ataf ar y diwrnod hwnnw. Rydw i’n credu bod fy adferiad wedi llamu yn ei flaen ers i fi ddechrau ar y rhaglen NERS!”

Meddai Susan Morris, Rheolwr Cyffredinol Macmillan yng Nghymru: “Mae’r ymchwil diweddaraf hwn yn cynnig rhagor o dystiolaeth eto o fanteision gweithgaredd corfforol ar gyfer pobl sy’n byw gyda chanser, yn ystod ac wedi triniaeth. Mae’n anodd annog pobl i feddwl am gadw’n actif yn ystod ac wedi triniaeth lethol am ganser, ond rydym am chwalu’r myth mai gorffwys yw’r peth iawn i’w wneud bob amser. Mae ymarfer corff yn ‘gyffur gwyrthiol’ a all wneud gwahaniaeth enfawr i adferiad.

“Mae ymchwil newydd yn dangos nad yw’r neges yn cael ei throsglwyddo i gleifion canser am bwysigrwydd cadw’n actif. Mae’n allweddol bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn annog pobl sy’n byw gyda chanser i gadw’n actif yn gorfforol, a dyna pam fod Macmillan yn cyllido’r cynlluniau peilot hyn, er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd.”

Meddai Dr Anna Campbell, Darlithydd mewn Gwyddoniaeth Ymarfer Corff Clinigol ym Mhrifysgol Dundee, a rhan o’r tîm ymchwil a arweiniodd yr astudiaeth hon: “Dyma’r astudiaeth gyntaf i ddilyn cleifion canser bum mlynedd wedi hap-dreial wedi’i reoli i ganfod a oes unrhyw fanteision hirhoedlog i’r rhaglen ymyrraeth ymarfer corff. Roedd y canlyniadau lawer yn fwy positif nag yr oeddem yn disgwyl – gyda thystiolaeth o fanteision hirhoedlog, sef hwyliau gwell a byw bywyd yn fwy actif o ddydd i ddydd.

“Yn arbennig, roedd y menywod a fu’n rhan o’r grŵp ymyrraeth ymarfer corff yn parhau i wneud ar gyfartaledd rhwng 50 a 350 munud o weithgaredd corfforol yn ychwanegol bob wythnos, o gymharu â’r grŵp rheoli – ac mae’n debygol y byddai hyn yn golygu manteision iechyd sylweddol i’r bobl hyn sydd wedi goroesi canser.

“Mae data ansoddol gan y ddau grŵp bum mlynedd yn ddiweddarach yn awgrymu bod y menywod a oedd yn rhan o’r grŵp ymarfer corff bellach yn fwy annibynnol wrth ymarfer corff, ac nad oeddent wedi’u cyfyngu gan gynifer o rwystrau rhag ymarfer â’r menywod nad oedd wedi’u clustnodi i wneud ymarfer corff yn ystod triniaeth. Felly mae’n bosib bod y menywod hyn wedi cael mwy o hyder drwy’r rhaglen newid ymddygiad a/neu drwy effeithiau positif bod mewn grŵp, yn rhoi cefnogaeth a hyder.”

Am gefnogaeth wrth gychwyn neu ailgydio mewn gweithgaredd corfforol edrychwch yma www.macmillan.org.uk/movemore a gofynnwch am becyn gwybodaeth neu ffoniwch ein llinell gymorth ar 0808 808 0000

 

Rhannu |