Mwy o Newyddion
Gwobr Luniadu Syr Kyffin Williams 2012
Cyhoeddwyd enwau’r tri person a oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Gwobr Luniadu Syr Kyffin Williams 2012.
Enillwyd y wobr gyntaf o £3000 gan Chloe Holt gyda’r llun ‘Beina’. Enillydd yr ail wobr o £2000 yw John Carroll gyda ‘Trees Reflected in Running Water’. Enillydd y wobr i fyfyrwyr a £2000 oedd Rorik Smith gyda’r llun Archives, Marine Terrace. Noddwyd y gwobrwyon gan Brifysgol Cymru
Y beirniaid oedd Dr Paul Joyner, Mary Lloyd Jones, Gareth Parry a Sarah Cavell, a chadeiriwyd y beirniadu gan David Meredith, aelod o Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams yn gweithredu ar ran yr Athro Derec Llwyd Morgan – cadeirydd yr ymddiriedolaeth.
Gweinyddir y gwobrwyon gan Oriel Ynys Môn mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams.
Meddai Nicola Gibson, Swyddog Celfyddydau Cyngor Ynys Môn: “Bydd gwaith yr enillwyr ynghyd a gwaith dros 70 o gystadleuwyr eraill yn cael eu harddangos yn Oriel Syr Kyffin Williams yn Oriel Ynys Môn. Rydym yn ddiolchgar i bawb gymerodd ran yn y gystadleuaeth ac yn edrych ymlaen am arddangosfa gofiadwy.”
Mae’r arddangosfa ymlaen yn Oriel Syr Kyffin Williams yn Oriel Ynys Môn tan Ionawr 20, 2013. Mynediad am ddim ac mae Oriel Ynys Môn ar agor yn ddyddiol rhwng 10.30yb - 5.00yh.
Llun: Chloe Holt