Mwy o Newyddion
Arglwydd Raglaw Gwynedd yn cyflwyno Gwobr bwysig gan y Frenhines i grŵp gwirfoddol lleol
Heddiw (17 Hydref 2012) cynhaliodd Arglwydd Raglaw Gwynedd seremoni arbennig i gyflwyno Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol 2012 i Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor ym Mhrifysgol Bangor.
Yr anrhydedd cenedlaethol pwysig hwn yw’r MBE i grwpiau o wirfoddolwyr sy’n gweithio yn eu cymuned leol er budd eraill. Mae’n gosod y meincnod cenedlaethol ar gyfer rhagoriaeth mewn gwirfoddoli, gyda gwaith y rhai a wobrwyir yn cael ei ystyried o’r safon uchaf.
I gydnabod eu cyfraniad nodedig, derbyniodd y grŵp o Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Bangor dlws grisial ynghyd â thystysgrif wedi’i llofnodi gan y Frenhines.
Meddai’r Athro John Hughes, Is-ganghellor, Prifysgol Bangor: “Mae ein myfyrwyr yn gwneud cyfraniad o bwys i’r gymuned y maent yn byw ac astudio ynddi, gan hyrwyddo perthynas agos rhwng y Brifysgol a’r gymuned leol. Mae’r cyfleoedd hyn i wirfoddoli yn cyfoethogi profiadau’r myfyrwyr yn ogystal â’r cymunedau cyfagos. Rwy’n gwybod bod ein projectau gwirfoddoli’n ymateb i anghenion lleol yn ogystal ag adlewyrchu diddordebau a phryderon myfyrwyr.”
Meddai Llywydd Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Bangor: “Mae dros fil o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor, gyda 250 yn gwirfoddoli mewn un neu ragor o brojectau yn y gymuned. Rydym yn falch iawn o’n gwirfoddolwyr sydd, ar hyn o bryd, yn rhoi cyfanswm o 450 awr yr wythnos i’r gymuned leol, a hefyd y gefnogaeth drefniadol yn Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor, sy’n galluogi’r myfyrwyr i wirfoddoli.”
Meddai Helen Munro, Rheolwr Gwirfoddoli Myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor: “Mae’r gwirfoddolwyr yn eithriadol falch o dderbyn yr anrhydedd hwn sy’n tystio i’r amser y maent yn ei roi, a’r aberth y mae’n rhaid iddynt ei gwneud weithiau, er mwyn cyfoethogi bywydau pobl eraill fwy bregus. Daeth dros 40 aelod o’r tîm gwirfoddoli presennol i’r seremoni ac fe wnaethant wirioneddol fwynhau bod yn rhan o achlysur mor unigryw.”
Roedd grŵp Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor ymysg 130 ar draws gwledydd Prydain a 3 grŵp o Gymru i dderbyn yr anrhydedd yn 2012.
I weld enillwyr y Wobr eleni a gwybodaeth sut i enwebu grŵp, ewch i www.direct.gov.uk/qavs, lle gellir lawr lwytho ffurflen enwebu.