Mwy o Newyddion
Cerys yn cyfri’r dyddiau cyn y daw WOMEX i Gymru
Blwyddyn yn unig sydd tan y bydd Cymru yn croesawu WOMEX, sef arddangosfa gerddoriaeth flynyddol fwyaf blaenllaw'r byd, a'r gantores a'r ddarlledwraig Cerys Matthews fydd yn dechrau cyfri’r dyddiau tan WOMEX 13 Caerdydd ddydd Iau yma yn WOMEX eleni yn Thessalonika.
Cafodd ei disgrifio gan UNESCO fel y farchnad broffesiynol, ryngwladol bwysicaf ar gyfer cerddoriaeth y byd o bob math. Bydd perfformiadau WOMEX gyda'r nos yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a bydd y perfformiadau yn ystod y dydd, y ffair fasnach, cynhadledd a’r digwyddiad sgrinio ffilmiau'n cael eu cynnal yn y Motorpoint Arena, Caerdydd rhwng 23-27 Hydref, 2013. Bydd tocynnau ar gyfer y perfformiadau gyda'r nos ar werth i'r cyhoedd yn y gwanwyn.
Bydd Cerys yn rhoi gwahoddiadau personol i gynadleddwyr WOMEX Caerdydd ar ffurf cryno ddisg sy'n cynnwys casgliad o ganeuon Cymreig gwych a ddewisodd hi'n arbennig ynghyd â chopi o SONGLINES, sef y cylchgrawn cerddoriaeth byd-eang orau, y mae Cerys yn ysgrifennu colofnau iddo. Wrth sôn am y gryno ddisg, dywed curadur Cerdd Cymru:Music Wales ar gyfer WOMEX y flwyddyn nesaf:
"Ym mis Hydref 2013 fe fydd Cymru a'n cerddoriaeth ar lwyfan y byd pan fydd WOMEX yn cael ei chynnal yma yng Nghaerdydd. Rydw i am sicrhau y bydd cynrychiolwyr Cerddoriaeth y Byd yn gwenu, yn synfyfyrio ac yn awyddus i wybod mwy am wlad y gân, sy'n alarus ond angerddol, yn llawn harmoni, a'u helpu i ddarganfod ein traddodiadau newydd a'n traddodiadau hynafol.
"Byddwn yn croesawu ymwelwyr i'r wlad Geltaidd lai adnabyddus hon, i ymhyfrydu yng nghysgodion Dylan Thomas, Aneurin Bevan a Syr Tom Jones, i brofi canu corawl, cwrw 'skull attack', cocosen neu ddwy, cennin, cennin Pedr, a chael eu gwefreiddio gan y ddraig goch ar ein baner. Ond hoffwn sicrhau eu bod yn cael eu swyno gennym, eu bod yn ymhyfrydu yn ein hymadroddion, ein hwiangerddi hudolus, ac yn ymgolli mewn melodïau eneidiau breuddwydiol, oherwydd ymhlith y mynyddoedd, y nentydd a'r creigiau arfordirol mae llwyth o bobl sy'n parhau i garu cynghanedd a chanu harmonïau ac mae'r angerdd hwnnw i'w weld yn amlwg iawn hyd yn oed wrth i ni drydar drwy'r unfed ganrif ar hugain…
Gyda'r ffocws ar Gymru, bydd y digwyddiad, o dan arweiniad Cerdd Cymru: Music Wales a Cerys yn helpu cynadleddwyr i ddarganfod mwy am Gaerdydd, Cymru a'n cerddoriaeth.
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cerdd Cymru:Music Wales, Eluned Haf: “Bydd WOMEX yn ddigwyddiad gwefreiddiol yng Nghaerdydd ymhen blwyddyn. Bydd Canolfan Mileniwm Cymru a'r bae yn fwrlwm o gyngherddau o fwy na 300 o artistiaid a bydd y Motorpoint Arena yn gartref i'r cyfan, yn arddangos cannoedd o gwmnïau o fwy na 90 o wledydd a pherfformiadau yn ystod y dydd. Gydag ond blwyddyn tan y digwyddiad, rydyn ni'n annog cerddorion a mentrau cerdd i feddwl am sut y byddan nhw'n gwneud y mwyaf o'r cyfle i fynychu WOMEX yng Nghymru er mwyn sicrhau y bydd cerddoriaeth Cymru i'w chlywed y tu hwnt i 2013, ledled y byd."