Mwy o Newyddion
Cadwch Gymru’n Daclus yn croesawu’r byd i Gymru
Cadwch Gymru’n Daclus fydd yn croesawu’r Cyfarfod rhyngwladol o Weithredwyr Cenedlaethol y Faner Las yn Ninbych y Pysgod y penwythnos hwn (20-21 Hydref), a hynny yn y bumed flwyddyn ar hugain er pan fu’r gwobrau’n cael eu cyflwyno i’r traethau sydd yn cyrraedd y safon uchaf.
Mae Michael Sheen, yr actor o Gymro sydd yn gweithio yn Hollywood ac sydd yn hyrwyddwr Cadwch Gymru’n Daclus, wedi recordio neges i gyfarch y cynrychiolwyr o dri deg saith o wledydd a fydd yn ymweld â Chymru. Mae’r gynhadledd ddeuddydd yn gyfle i drafod materion sydd yn ymwneud â’r Faner Las ac i rannu arferion da, a bydd y cynrychiolwyr yn cael eu croesawu i Gymru gan aelodau o Lywodraeth Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chyngor Sir Benfro.
Mae rhaglen y Faner Las yn eiddo i sefydliad dielw annibynnol sef y Sefydliad Addysg Amgylcheddol, a’r sefydliad hwnnw sydd yn rhedeg y rhaglen. Fe’i gweinyddir yng Nghymru gan Cadwch Gymru’n Daclus. Mae wedi gwobrwyo 3849 o draethau a marinas drwy’r byd. Mae’r Wobr yn gweithio tuag at ddatblygu cynaliadwy ar draethau a marinas trwy gyfrwng meini prawf llym o ran ansawdd y dŵr, addysg a gwybodaeth amgylcheddol, rheolaeth amgylcheddol a diogelwch.
Yn 2012 dyfarnwyd y Faner Las i 43 o draethau a phum marina. Daeth hyn yn sgil agor Llwybr Arfordir Cymru’n ddiweddar a’r datganiad yn y Lonely Planet mai arfordir Cymru yw’r ‘Ardal Orau’ ar y Ddaear i ymweld â hi yn 2012.
Dyma’r hyn a ddywedodd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd: "Rydym yn sylweddoli bod ein traethau’n ased naturiol enfawr a’u bod yn denu nifer sylweddol o dwristiaid a llawer o fuddsoddiad bob blwyddyn.
“Rydw i’n hynod falch, felly, bod y Sefydliad Addysg Amgylcheddol yn cynnal eu Cyfarfod rhyngwladol o Weithredwyr y Faner Las yn Ninbych y Pysgod eleni, yn arbennig gan fod Rhaglen y Faner Las eleni’n dathlu pum mlynedd ar hugain."
Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: “Mae’n bleser gan Cadwch Gymru’n Daclus groesawu’r gynhadledd bwysig hon, a’r Faner Las yn ei phumed flwyddyn ar hugain. Edrychaf ymlaen at ymuno ag aelodau o wledydd eraill er mwyn cael canfod ffyrdd o wella’r safonau rhagorol sydd eisoes mewn bod o ran rheoli a hyrwyddo traethau’r Faner Las. Mae hwn yn gyfle hefyd i dynnu sylw at arfordir anhygoel Cymru a photensial hynny ar gyfer twristiaeth.”
Llun: Michael Sheen