Mwy o Newyddion
Datblygiad sylweddol mewn dyddio radiocarbon
Mae gwaddod sydd wedi ymgasglu ar lawr llyn Siapaneaidd dros filoedd o flynyddoedd wedi galluogi gwyddonwyr i wneud gwellhad sylweddol i gywirdeb dyddio radiocarbon. Mae’r gwaith hwn yn golygu fod dyddio radiocarbon bellach yn gywir am ymron i 54,000 o flynyddoedd.
Defnyddir y broses, a ddyfeiswyd yn y 1950au, yn helaeth er mwyn dyddio oedran safleoedd archeolegol, digwyddiadau newid hinsawdd y gorffennol, a newidiadau i’r amgylchedd.
Tan nawr y mae wedi darparu dull o ddyddio sy’n gywir hyd at oddeutu 12,000 o flynyddoedd yn ôl. Tu hwnt i’r pwynt hwn, mae’r newidiadau a fu yn yr hinsawdd ar ddiwedd yr oes iâ diwethaf wedi’u gwneud hi’n sylweddol anoddach i wneud mesuriadau cywir.
Fodd bynnag, mae cyfres o greiddiau – darnau hir o fwd - a gasglwyd o lawr Llyn Suigetsu yn Siapan, ac a ddehonglwyd gan ymchwilwyr o’r DG, ac yn eu plith ymchwilwyr o Aberystwyth, wedi darparu cofnod godidog o newid amgylcheddol sydd yn ymestyn yn ôl dros 70,000 o flynyddoedd.
Adroddir eu canfyddiadau yn Science, cyfnodolyn y Gymdeithas Americanaidd ar gyfer Datblygiad Gwyddoniaeth (America Association for the Advancement of Science: AAAS), ar ddydd Gwener 19 o Hydref.
Dangosodd astudiaethau blaenorol o Lyn Suigetsu fod y gwaddod ar y llawr wedi’i wneud o haenau tenau sy’n ffurfio’n flynyddol. Trwy gyfri’r haenau, mae’n bosibl darganfod graddfa oed penodol gydag eglurdeb blynyddol.
Mae Llyn Siguetsu mewn ardal nas gorchuddiwyd erioed gan rewlifoedd. Hyd yn oed yn ystod yr oes ia ddiwethaf, amgylchynwyd ef gan goed, a syrthiai’r dail o’r coed hynny i mewn i’r llyn.
Gyda threigl amser, cadwyd y dail hyn yn y gwaddod ac y maent yn berffaith ar gyfer datrys cynnwys radiocarbon atmosfferig y gorffennol, y dangosydd allweddol ar gyfer dyddio radiocarbon.
Dr Henry Lamb o’r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth yw un o bedwar Prif Ymchwilydd y prosiect ac y mae wedi chwarae rhan allweddol yn y dehongli a wnaed o’r creiddiau gwaddod.
Gan ddefnyddio dulliau newydd o astudio ynghyd â sganiwr creiddiau pelydr-x uwch-dechnoleg, ymgymerodd Dr Lamb a’r ymchwilydd ôl-ddoethuriaethol Dr Mike Marshall â’r dasg o gyfri a chofnodi nodweddion yr haenau blynyddol yng ngreiddiau Llyn Suigetsu, nodweddion sydd yn rhy fân i’w gweld gyda llygad dyn.
Mae gan y sganiwr y gallu i gynnal astudiaeth fanwl o ddarn metr o hyd o’r craidd mewn ychydig oriau, a hynny mewn camau o 60 micron - mae un micron yn filfed rhan o filimetr. Byddai’n cymryd blynyddoedd i gwblhau’r fath dasg gan ddefnyddio dulliau dehonglu arferol, a byddai gwneud hynny gyda’r fath fanylder yn amhosibl.
Dros nifer o fisoedd astudiodd tîm Aberystwyth 40 metr o greiddiau, gan ddarparu data hanfodol a fu’n gymorth i adeiladu’r model oedran sy’n sail i’r calibriad radiocarbon addasedig a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn erthygl Science.
Gweithiodd ymchwilwyr Aberystwyth yn agos gyda gwyddonwyr yng Nghanolfan Helmholtz, Potsdam yn yr Almaen, a fu’n astudio’r creiddiau trwy ddefnyddio dull cyfri haenau microsgopig. Mae eu canfyddiadau’n cefnogi’r gwaith a gyflawnwyd yn Aberystwyth.
Dywedodd Dr Lamb: “Mae dyddio radiocarbon yn hanfodol i archaeoleg ac ymchwil i newid hinsawdd. Mae’n allweddol i’n dealltwriaeth ni o sut mae cylch carbon y byd yn gweithio. Dengys y gwaith a gyflawnwyd gennym ar greiddiau Siguestu yn amlwg fod y dull modern o’u hastudio, a ddatblygwyd yma yn Aberystwyth, wedi cyfrannu’n helaeth at ehangu manylder a chywirdeb y raddfa amser radiocarbon.
“Bydda i’n dweud wrth fy myfyrwyr yn barhaus fod ‘cronoleg yn hanfodol’ mewn astudiaethau o newid hinsawdd, archaeoleg ac esblygiad dynol. Bellach, medraf ddweud wrthynt fod Suigetsu yn darparu “cronoleg y gallwn ddibynnu arni”.
Arweinir prosiect Llyn Suigetsu gan Dr Takeshi Nakagawa o Brifysgol Newcastle. Prif awdur y papur, A complete terrestrial radiocarbon record for11.2- 52.8, yw Dr Christopher Bronk Ramsey o’r Uned Cyflymu Radiocarbon Rhydychen ym Mhrifysgol Rhydychen.