Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Hydref 2012

Gweinidog yn ‘rhy brysur’ i drafod cymunedau Cymraeg

 

Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynegi pryder am y ffaith nad oes gan Weinidog Llywodraeth Cymru ddigon o amser i drafod argyfwng cymunedol y Gymraeg.

Mewn ymateb i lythyr gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg at y Gweinidog John Griffiths yn gofyn am gyfarfod i drafod effaith newidiadau cynllunio ar yr iaith, mae gwas sifil yn dweud bod ‘ ei ddyddiadur yn llawn ’. Daw’r newyddion er bod pwyslais mawr yn strategaeth iaith Lywodraeth Cymru ar yr her gymunedol sy’n wynebu’r Gymraeg.

Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y cymunedau lle mae dros 70% yn siarad Cymraeg - gostyngiad o 92 yn 1991 i 54 yn 2001, ac mae disgwyl y bydd y cyfrifiad nesaf yn dangos dirywiad difrifol bellach. Mae gohebiaeth y Gymdeithas gyda swyddfa John Griffiths yn rhybuddio bod y newidiadau cynllunio arfaethedig "yn dangos bwriad [gan y Llywodraeth] i weithredu’n groes i Strategaeth Iaith eich Llywodraeth."

Meddai Toni Schiavone, llefarydd y Gymdeithas ar gymunedau cynaliadwy:  "Ry'n ni'n awyddus iawn i drafod ein pryderon am sefyllfa'r Gymraeg ar lefel gymunedol efo'r Gweinidog. Nid yw'n glir o'r ymateb ddaeth gan swyddfa John Griffiths eu bod yn sylweddoli maint yr her sy'n wynebu ein cymunedau Cymraeg – dylai'r mater yma fod yn un o'r pethau sydd ar frig ei agenda.

"Mae'r Gymdeithas wedi cyfarfod gyda Leighton Andrews sawl gwaith ers iddo gymryd cyfrifoldeb dros y Gymraeg, yn ogystal â chwrdd â Carwyn Jones, ond mae gan adrannau eraill o'r Llywodraeth gyfrifoldeb dros y Gymraeg hefyd. Mae angen i'r Gymraeg cael ei brif-ffrydio fel pwnc ym mhob adran, yn enwedig y maes cynllunio, fel sy’n cael ei amlinellu yn strategaeth iaith y Llywodraeth. Ni allwn ni fforddio i barhau gyda pholisïau cynllunio sy'n trin y Gymraeg fel mater ymylol."

"Mae'n amser i bobl ddeffro i'r her fawr sydd o'n blaenau. Ymhen ychydig bydd canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn cael eu rhyddhau; mi fydd y canlyniadau yn brawf o effeithiolrwydd Llywodraethau Cymru ers datganoli."

Mae’r mudiad wedi ysgrifennu eto i geisio cael cyfarfod i drafod sefyllfa gymunedol y Gymraeg gyda’r Gweinidog, ac yn disgwyl ymateb pellach. Yn eu hymdrechion i atal a gwrth-droi dirwyiad y Gymraeg ar lefel gymunedol, mae’r Gymdeithas yn sefydlu cynghrair o gymunedau i lobio dros yr iaith yn eu cymunedau; tebyg i’r un yng Ngwlad y Basg.


Rhannu |