Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Hydref 2012

Jacquie Myrtle – 21 mlynedd o gelf yn y gymuned

Mae'r arlunydd Jacquie Myrtle yn dathlu 21 mlynedd o greu gwaith celf ar Ynys Môn ac o fod ynghlwm wrth Ganolfan Ucheldre, Caergybi, a Fforwm Gelf Ynys Môn.

Ganed Jacquie yng Nghaergybi, yn yr Empire Cinema oedd yn cael ei redeg gan ei nain a’i thaid ers blynyddoedd. Cafodd y fraint o gael tocynnau sinema am ddim nes roedd yn 15 oed! Aeth Jacquie i goleg celf yn Llundain i astudio celf gain cyn i amgylchiadau teuluol ei gorfodi i ddychwelyd i Gaergybi yn y 1980au cynnar.

"Ar ôl i mi fod yn ôl yng Nghaergybi am gyfnod, deuthum ar draws hen ffrind a soniodd wrthyf am y ganolfan gelfyddydau cymunedol oedd yn mynd i gael ei hagor yn yr hen leiandy. Dechreuais fy nghysylltiad â’r ganolfan drwy fod yr arlunydd preswyl cyntaf yno a gwneud gwaith gwirfoddol i’r clwb celf, yn gweithio gyda'r cerflunydd Trefor Fôn Owen. Rwyf wedi cynnal tair arddangosfa o’m gwaith fy hun yno dros y blynyddoedd," meddai Jacquie.

Fel arlunydd wedi ennill ei phlwyf gyda phaent dyfrlliw, acrylig ac olew, fe wnaeth ei gwaith cynnar gyda'r clwb celf a gweithdai ehangu ei dealltwriaeth o wahanol ddeunyddiau a’i diddordeb mawr mewn cyfryngau cymysg. "Dysgais lawer am y gwahanol gyfryngau, yn cynnwys carreg a papier-mâché. Dysgais hefyd sut i reoli grwpiau mawr o blant," meddai Jacquie.

Mae Jacquie wedi bod yn cynnal y clwb celf yng Nghanolfan Ucheldre ers blynyddoedd ac mae hefyd yn cynnal gweithdai celf cymunedol i Mind Ynys Môn a Digartref Ynys Môn. "Dywedodd rhywun mewn gweithdy yn ddiweddar, ‘mae'n anhygoel faint o bobl artistig sy’n byw yng Nghaergybi.’ Mae llawer o bobl greadigol yma ar yr ynys. Mae Canolfan Ucheldre a Fforwm Gelf Ynys Môn yn ein cefnogi, ac yn hyrwyddo'r celfyddydau ar Ynys Môn," meddai Jacquie.

Drwy fod yn rhan o Ganolfan Ucheldre, Jacquie oedd un o aelodau cyntaf Fforwm Gelf Ynys Môn ac mae wedi agor ei drysau dros y Pasg bob blwyddyn yn ystod Wythnosau Celf Ynys Môn. "Rwyf wedi bod yn rhan o Fforwm Gelf Ynys Môn o’r dechrau. Mae'n gyfle gwych i bobl leol ac ymwelwyr gwrdd ag artistiaid lleol a chael profiad o’n byd artistig. Mae hefyd yn ffordd wych o wneud ffrindiau a chydweithio ag artistiaid eraill. Bu teithiau bws eleni yn llwyddiant mawr. Rwy'n gobeithio y bydd y cyllid i gefnogi Fforwm Gelf Ynys Môn yn parhau ac y bydd y digwyddiad yn tyfu bob blwyddyn," meddai Jacquie. Yn ystod Wythnosau Celf Ynys Môn, roedd gwaith Jacquie i’w weld yn arddangosfeydd y Fforwm Gelf yng Nghanolfan Ucheldre ac yng Nghanolfan David Hughes, Beaumaris, yn ogystal ag yn ei siop barhaol yn Artspace Caergybi.

Mae cyllid newydd gan gefnogwyr y project wedi galluogi i Fforwm Gelf Ynys Môn ddatblygu ei wefan a chynnwys teithiau bws mini yn ystod y digwyddiad. Cafodd project Fforwm Gelf Ynys Môn gyllid drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

"Rydym yn gobeithio y bydd y Fforwm Gelf Ynys Môn, a Chanolfan Ucheldre, yma am 21 mlynedd arall. Byddwn yn dathlu ddydd Sul, 28 Hydref drwy gynnal ‘arddangosfa pen-blwydd yn 21 oed' a phaned a chacen yn Ucheldre, gan dynnu sylw at waith arlunwyr dros y blynyddoedd, yn cynnwys gwaith Jacquie. Bydd y dathliadau’n cyd-fynd â dechrau Wythnosau Celfyddydau Perfformio Ynys Môn (19 Hydref - 4 Tachwedd) a Gŵyl Celfyddydau Caergybi," meddai Mike Gould, rheolwr cyffredinol Canolfan Ucheldre a chadeirydd pwyllgor Fforwm Gelf Ynys Môn, sy’n gorff gwirfoddol.

"Mae harddwch y tirlun a'r arfordir yn denu arlunwyr yma. Mae emosiynau’r amgylchedd yn apelio ataf, ac rwy’n defnyddio fy ymatebion emosiynol i ddatblygu fy ngwaith celf newydd, a fydd yn cael ei arddangos yn ystod Wythnosau Celf Ynys Môn dros y Pasg ac yn fy 'Artspace' yn Stryd Stanley, Caergybi," meddai Jacquie.

Mae'r Fforwm Gelfyddydau yn bodoli i hyrwyddo pob ffurf ar gelfyddyd ar Ynys Môn a bydd yn cynnal Wythnosau Celfyddydau Perfformio Ynys Môn. Os hoffech ddod yn aelod o'r Fforwm, cysylltwch â Heather ar 01407 763361 neu he@ucheldre.org. Dyddiad cau derbyn ceisiadau ar gyfer Stiwdios Agored 2013 yw 30 Tachwedd 2012.

Llun: Jacquie Myrtle

Rhannu |