Mwy o Newyddion
Plaid yn galw am dariff ynni teg i daclo dilema 'bwyta neu wresogi'
Mae Jonathan Edwards AS Plaid Cymru wedi rhybuddio fod y dryswch dros addewid y Prif Weinidog i orfodi cwmniau ynni i gynnig eu tariff isaf i’w cwsmeriaid yn gwastraffu amser prin yn y frwydr yn erbyn tlodi tanwydd.
Mae pedwar o gwmniau ynni y ‘Big Six’ eisoes wedi datgan eu bwriad i godi prisiau cyn y flwyddyn newydd, ond mae’r Llywodraeth dan bwysau cynyddol i weithredu’n gyflym i herio’r cynnydd hyn.
Mae Mr Edwards wedi ailadrodd ei alwad am dariff cymdeithasol gorfodol a fyddai’n cynnig cefnogaeth arbennig i unigolion mwyaf bregus cymdeithas, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn tlodi tanwydd yn sgil gwario 10% o’u hincwm ar filiau ynni.
Ychwanegodd na fydd y farchnad gystadleuol byth yn gweithio ar gyfer pobl dan risg, ac y byddai methiant taclo hyn yn arwain at gynnydd yn y nifer o deuluoedd sy’n wynebu’r broblem dorcalonnus o orfod dewis rhwng bwyta a gwresogi eu cartrefi.
Dywedodd Mr Edwards: “Gyda 25% o gartrefi Cymreig yn dioddef tlodi tanwydd, mae’r sefyllfa yn ddifrifol. Mae disgwyl 3,000 o farwolaethau ymysg yr henoed eleni o ganlyniad i dlodi tanwydd ac mae penderfyniad y Glymblaid i dorri’r Lwfans Tanwydd Gaeaf o £300 i £200 yn siwr o waethygu’r broblem.
“Mae’r Prif Weinidog yn awyddus i gael ei weld yn taclo’r broblem ond bydd ei alwad ar gwmniau i gynnig y tariff isaf i’w cwsmeriaid yn gwneud ychydig iawn i helpu dioddefwyr tlodi tanwydd, yn wir gall arwain at safoni tariff pris uchel.
“Yn yr un modd, mae polisi Llafur o ddibynu ar rym y farchnad drwy gystadleuaeth gynyddol yn anllythrennog ac wedi methu ers y dechrau. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth ymyrryd i amddiffyn unigolion mwyaf bregus cymdeithas – methodd Llafur wneud hynny unwaith mewn 13 mlynedd.
“Mae gwendidau’r farchnad gystadleuol yn amlwg. Ni ddylai unrhyw un mewn cenedl â chyfoeth o adnoddau ynni fel Cymru ddioddef tlodi tanwydd ond rydym yn gweld banciau bwyd yn agor ledled y wlad wrth i nifer cynyddol o deuluoedd wynebu dilema ‘bwyta neu wresogi’.
“Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu dros y mater hwn ers blynyddoedd gan alw am dynnu’r rhai sy’n byw mewn tlodi tanwydd allan o’r farchnad a’u rhoi ar dariff cymdeithasol gorfodol. Byddai hyn yn golygu fod pobl yn derbyn yr help angenrheidiol yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, yn hytrach na dioddef yn sgil dryswch a diffyg penderfyniad y Llywodraeth.”