Mwy o Newyddion
Eglwysi a Chapeli i ystyried cynllun newydd radical ar gyfer cydweithio
Gallai’r rhaniadau traddodiadol rhwng eglwysi a chapeli ddiflannu yn wyneb symudiad newydd at ragor o undod.
Bydd arweinwyr Cristnogol o’r rhan fwyaf o enwadau Cymru yn cyfarfod mewn cynhadledd fawr yr wythnos hon er mwyn edrych ar ddulliau chwyldroadol o gyd-weithio’n agosach.
Ymysg y syniadau dan ystyriaeth bydd cynigion newydd sbon ar gyfer math newydd o esgob ac un Eglwys Unedig i Gymru.
Cynhelir y gynhadledd – Y Cydgynulliad – yn Aberystwyth ac fe’i mynychir gan gynrychiolwyr o’r pum Eglwys Gyfamodol yng Nghymru – yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yr Eglwys yng Nghymru a rhai cynulliadau Bedyddwyr Cyfamodedig. Mae gan y pum eglwys tua 2,500 o eglwysi rhyngddynt.
Y prif siaradwr yn y Cydgynulliad yw’r Parchedig Dr Olav Fykse Tveit, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Eglwysi’r Byd.
Dywedodd y Parchg Gethin Abraham-Williams, Cadeirydd Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodedol: “Bedwar degawd yn ôl, cychwynnodd pump o’r prif draddodiadau Cristnogol yng Nghymru ar lwybr tuag at gyflwyno tystiolaeth unedig ar gyfer yr Efengyl. Gwnaethant gyfamod difrifol gerbron Duw â’i gilydd fel bo modd eu tywys ynghyd mewn un Eglwys weledol i wasanaethu â’i gilydd er mwyn cenhadu er gogoniant i Dduw.
“Yn y Cydgynulliad, bydd yr eglwysi yn ail-asesu eu cynnydd tuag at gyflawni'r amcanion hynny. Bydd y Cydgynulliad hefyd yn achlysur ar gyfer cyflwyno’n hunain eto gerbron yr Ysbryd Glan gan ddisgwyl am y foment y bydd yn ‘creu o’u bywydau ar wahân, un gymuned eglwysig wedi’i ymrwymo at genhadaeth gyffredin yn y byd.’”
Ychwanegodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan: “Dyma’r digwyddiad eciwmenaidd mwyaf yng Nghymru ers blynyddoedd lawer. Mae ein diffyg undod yn tanseilio ein neges o gymodi. Rwy’n gobeithio y gallwn ganfod ffordd ymlaen fel Eglwysi yng Nghymru.”
Bydd cyfres o adroddiadau yn cael eu lansio yn y Cydgynulliad, yn amlinellu cynigion arloesol ar gyfer math newydd o esgob, wedi ei fabwysiadu gan eglwys Ddiwygiedig ac sy’n fynegiant newydd o ddealltwriaeth yr eglwys o swydd esgob. Maent hefyd yn rhagweld un Eglwys Unedig i Gymru, ble bydd modd cyfnewid gweinidogaethau ordeiniedig rhwng y rhai hynny o gefndiroedd capel neu eglwys.
Bydd y diwrnod yn dod i ben trwy rannu bara a gwin gan ddefnyddio trefn newydd sbon ar gyfer y Cymun Sanctaidd.
Bydd cynrychiolwyr swyddogol o bob un o’r pum Eglwys Gyfamodol yn cyflwyno’r adroddiadau i’w eglwysi lleol, ac fe fydd y pum Eglwys yn ymateb i’r argymhellion ymhen amser.
Llun: Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan