Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Hydref 2012

Gareth Glyn yn rhoi’r gorau i’r Post Prynhawn wedi 34 o flynyddoedd

Mae llais cyfarwydd newyddion prynhawn BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i gyflwyno’r rhaglen. Ac yntau wedi bod yn cyflwyno’r Post Prynhawn ers 34 o flynyddoedd bydd Gareth Glyn yn gadael ym mis Ionawr.

Yn ogystal â bod yn adnabyddus fel cyflwynydd y Post Prynhawn, gyda’i gyflwyno chwim a’i gwestiynu clir, mae hefyd wrth gwrs yn un o gyfansoddwyr mwya’ blaenllaw’r wlad. Bydd nawr yn canolbwyntio ar ei waith fel cyfansoddwr ac i osod cerddoriaeth.

“Fy ngobaith i yn y blynyddoedd nesa’ ydi cyfansoddi opera Gymraeg,” meddai Gareth Glyn, oedd yn gyfrifol am drefnu’r darn Nimrod gan Elgar a berfformiwyd yn seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd yn Llundain yn gynharach yn y flwyddyn. Ond bydd cyfle i’w glywed eto ar donfeddi’r orsaf.

“Mi fydda i yn cyflwyno rhaglen tra-gwahanol i’r Post Prynhawn ar Radio Cymru rhwng Ebrill a Mehefin, sef rhaglen fore Sul ar gerddoriaeth glasurol – fy newis fy hun o gerddoriaeth. Mae Post Prynhawn ei hun wedi newid ers i mi ddechrau yn 1978 – yr adeg honno teipiaduron oedd yn y swyddfa, a nid rhai trydan chwaith. Erbyn hyn mae popeth yn llythrennol ar flaenau’ch bysedd.

“Rydw i wedi gweithio hefo pobol dda dros y blynyddoedd, ac mae yna lawer o bobol wedi mynd a dod yn rhan o’r tîm. Mae wedi bod yn gyfnod hapus iawn yn fy ngyrfa.”

Meddai Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg: "Mae cyfraniad Gareth Glyn yn un aruthrol a phwysig i ddarlledu a newyddiaduraeth Gymraeg – mae cyflwyno rhaglen ddyddiol fel Post Prynhawn yn heriol a llwyddodd i wneud hynny gyda phroffesiynoldeb  llwyr am gynifer o flynyddoedd.

"Mae Gareth wedi bod yn rhan annatod o fywydau gwrandawyr Radio Cymru ers i’r orsaf ddechrau ac rydym yn diolch iddo am ei ymroddiad i’r rhaglen ac i’r orsaf ac yn dymuno’n dda iddo yn y dyfodol. Rydw i hefyd yn falch iawn y byddwn yn dal i glywed llais Gareth Glyn ar yr orsaf yn y dyfodol.”

Bydd cyhoeddiad am gyflwynydd newydd y rhaglen yn cael ei wneud yn fuan.

 

Rhannu |