Mwy o Newyddion
Cynhadledd Addysg yng Ngwlad y Basg
Cynhelir cynhadledd arbennig ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym maes addysg drwy gyfrwng ieithoedd lleiafrifol yn Gasteiz, prifddinas Cymuned Hunanlywodraeth y Basgiaid ar 22 a 23 o Hydref. Prif thema’r gynhadledd fydd rôl addysg yn y broses o adferiad ieithyddol.
CAER, neu Gymdeithas Addysg Ewrop y Rhanbarthau i roi iddi ei theitl llawn, sy’n trefnu’r gynhadledd a hynny mewn cydweithrediad â phrif gynhadledd addysg flynyddol Adran Addysg Llywodraeth Cymuned Hunanlywodraeth y Basgiaid. Dros y blynyddoedd llwyddodd cynadleddau CAER, sydd wedi eu cynnal mewn sawl rhan o Ewrop gan gynnwys Cymru, i dynnu addysgwyr o bob cwr o’r cyfandir at ei gilydd i rannu profiadau o safbwynt hyrwyddo addysg drwy gyfrwng ieithoedd llai eu defnydd.
“Gyda’r Basgiaid yn amlwg iawn yn eu llwyddiant wrth sicrhau bod agos at 90% o blant y wlad yn derbyn eu haddysg naill ai drwy gyfrwng y Fasgeg yn unig neu’n ddwyieithog, yna mae llawer i addysgwyr ar draws Ewrop i’w ddysgu yma” meddai Robin Evans, Ysgrifennydd CAER.
Ymhlith yr amrywiol gyflwyniadau, bydd cyfle i’r cynadleddwyr glywed am yr hyn sydd yn digwydd mewn un ysgol yng Nghymru, megis yr ymdrechion yn Ysgol Dyffryn Teifi i sicrhau normaleiddio’r iaith o fewn bywyd ehangach y disgyblion yno. Yn ogystal â darlithoedd o amryw wledydd eraill bydd y cynadleddwyr hefyd yn cael cyfle i ymweld ag ysgolion yn y ddinas er mwyn cael blas ar yr hyn sydd yn digwydd yn ymarferol yn y dosbarth. Cynhelir sesiynau anffurfiol hefyd, efo cyfle i drafod efo arbenigwyr ar farchnata iaith o blith y Basgiaid.
Gyda chynrychiolwyr o dros 400 o ysgolion o Gymuned Hunanlywodraeth y Basgiaid yn bresennol yn y gynhadledd, yn ogystal ag ymgynghorwyr addysg, pwysleisia swyddogion CAER fod yma gyfle gwych i addysgwyr ar draws Ewrop i sefydlu cysylltiadau efo addysgwyr ac ysgolion o un rhan o Ewrop lle mae addysg drwy gyfrwng iaith leiafrifol yn wirioneddol ffynnu ar bob lefel ac ym mhob rhan o’r wlad.